Llydaw

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llydaw

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Llun 28 Meh 2004 5:48 pm

mynd i lydaw ddydd gwenar yma. dwi angan geid-bwc da. sgin unrhywun ffefryn alla nhw awgrymu?
lle 'di 'r llefydd gora i fynd? dwi rioed 'di bod yna... a heb ddarllan diawl o ddim chwaith. ma hi'n dechra mynd yn hwyrddydd. :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Geraint Edwards » Llun 28 Meh 2004 8:24 pm

Mae Llydaw yn lle gwych i fynd ar daith. Dyma rywfaint o lefydd i ymweld ag hwy:

Rennes: prifddinas Llydaw, yn y Dwyrain. Digonedd o fariau a bwytai, a'r enwog Rue Saint-Michel.

Carnac: meini hirion hynafol.

Dinan: tref gaerog ar ben bryn, mae'n atgoffa fi o Abergwaun.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Wierdo » Llun 28 Meh 2004 9:25 pm

O ydi, carnac yn hyfryd o le. Traethau neis a lot o lefydd hufen ia os dwin cofio'n iawn... :?

Joia!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan mred » Llun 28 Meh 2004 11:44 pm

Yr arfordir yn gyffredinol a deud y gwir; yn arbennig rhwng St-Brieg a Lannuon (Arfordir Goelo a Granit Rose), e.e.Ile Grande, Sillon de Talbert - prydferth iawn. Ardaloedd tir âr Llydaw yn undonog.

Huelgoat (Betws y Coed Llydewig) a'r bryniau coediog o gwmpas, a'r daith ar draws gwlad o Le Faou dros y mynydd i Brasparts, Gourin (gŵyl werin yn mis Medi!), a rhannau eraill o dde Llydaw yn fwy coediog, bryniog, a llai amaethyddol.

Byddai Karnag yn well y tu allan i'r tymor ymwelwyr - hynod ond hynod brysur hefyd. Coedwigoedd Paimpont a Guénécan yn ddiddorol, a dyffryn Afon Oust/Camlas Naoned a Brest (Josselin, Rohan ayb.) - llwybr ar hyd y gamlas.

Sgerbwd a dawnswyr gwerinol yn ei ganlyn ar fur yr eglwys yn Kermaria ger Plouc'ha/Plouha, Pempoul/Paimpol yn eitha brawychus! Gwened, Beg ar Raz (Pte du Raz), Morbihan, ayb.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Re: Llydaw

Postiogan Aran » Maw 29 Meh 2004 8:02 am

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:mynd i lydaw ddydd gwenar yma.


dw i'n mynd hefyd mewn pythefnos... felly os wyt ti'n dod ar draws unrhyw 'top tips' arall (yn enwedig ar gyfer Bro Leon), rho wybod... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Iau 01 Gor 2004 11:44 am

diolch i chi ogia. lot o help, achos di'r geid-bwc byth di cyrradd.

mi driai 'ngora aran. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Gorwel Roberts » Iau 01 Gor 2004 12:33 pm

Sut aeth y trip Llydewig wedyn?
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Aran » Iau 01 Gor 2004 1:07 pm

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:mi driai 'ngora aran. :)


champion - ga i fenthyg ffeifyr hefyd?... :winc:

ond o ddifri 'wan, os wyt ti'n cael dy daflu allan o unrhyw bybs am fihafio fatha Cofi, dyro wybod i mi osgoi mynd i'r un lle...!
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Llydaw

Postiogan Bobby Clodge » Iau 01 Gor 2004 1:51 pm

Heb fod yno ers 3 mlynedd ond mae Carnac yn le hyfryd (ond yn
dwristaidd iawn erbyn hyn) Dinas hyfryd arall sydd yn y de ydy Vannes!
Mae Quimper (Kemper) yn le hyfryd a dwi wastad wedi mwynhau St Malo yn
y gogledd.
Mae Brest yn le hyll oherwydd cafodd ei fomio'n drwm yn ystod y rhyfel.
Ond yr ochr orllewinol ydy'r ochr mwya Llydewig!!
Concarneau yn le braf. Mae na rhyw bentre bach yn y gorllewin
o'r enw Locronan. Mae'n dwristaidd iawn ond mae'n bentre sydd wedi cadw
ei gymeriad!
Yr unig ardal dwi'n 'anghyfarwydd ydy gogledd orllewin Llydaw sef
yr ardal mwya Llydewig - wedi bod i Lydaw mwy na dwsin o weithiau ond erioed wedi clywed y iaith Llydaweg - felly dwi'n dy gynghori di i ganolbwyntio ar y gogledd orllewin os wyt ti'n chwilio am unrhyw ddiwylliant
Llydaweg!!
Rhithffurf defnyddiwr
Bobby Clodge
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 51
Ymunwyd: Iau 10 Meh 2004 1:27 pm
Lleoliad: Llanilar

Postiogan mred » Gwe 02 Gor 2004 3:16 am

Chlywais i mo'r iaith yn y gog-orllewin yn 2000 chwaith; dim ond ddwywaith y clywais hi, a hynny tipyn i'r gog i Kemperle, yng nghefn gwlad (Langonned a rhywle arall).

Clywais hi lawer mwy yn 1989, yn Plogoff (nepell o'r Beg ar Raz/Pte du Raz); i'r de orll i Gwengamp, lle yr oeddynt hefyd yn gwisgo sabots/clocsiau; ac hefyd yn Scrignac (de ddwyr i Montroulez/Morlaix) - ac yn iaith gymunedol yn hytrach nag ambell i unigolyn. Tybed a oes cymunedau Llydaweg yn unlle bellach? Un peth calonogol, beth bynnag (os hynny) - mae'r iaith i'w gweld yn llawer amlach ar arwyddion bellach; arwydd o falchder cynyddol ynddi gobeithio.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron