'Dwi 'di hen flino ar pobl yn cymryd hin ganiatol ein bod ni'n byw mewn democratiaeth. Tydi'r hawl i un bleidlais pob peder blynedd ddim yn swnio llawer fel democratiaeth i mi; yn enwedig wrth ystyried nad oes llawer o wahaniaeth rhwng y partion mawr (mae nhw i gyd dueddol o wneud yr un peth mewn ffyrdd gwahanol); ac hefyd wrth ystyried nad ydi'r cyhoedd yn gweld hi'n hawdd ymateb i syniadau newydd ac arloesol am sut fath o fyd y byswn ni'n medru byw ynddo, a hynny oherwydd fod gennym ni fusnesau cyfryngau sydd ofn dweud wrth pobl yr hyn nad ydynt eisiau ei glywed... Mae'r rhan fwyaf o bapurau newydd a sianeli teledu ddigon hapus bwydo rwts i'n cyhoedd anaeddfed tra mae'r byd yn llosgi o'n hamgylch.
Os na gymrwn ni cyfrifoldeb dros ein bywydau a'n byd mi fyddan ni'n parhau i fod yn gymdeithas blentynaidd, decedant a diwerth, heb wneud dim llawer a'n bywydau ond difetha'r blaned hardd yma.
Tydi hi ddim yn amser creu gwleidyddiaeth newydd sydd yn rhoi'r pwer nol yn nwylo pobl? Gwleidyddiaeth sydd yn cynrychioli pobl? O leiaf wedyn os penderfynwn ni barhau ar y trywydd peryglus rydan ni arno rwan, a'i ddilyn i'r argynfwng sy'n ein disgwyl wrth ei ben, fedrwn ni ddim rhoi'r bai ar neb ond ni'n hunain.
Reit ta. Pwy sy isio chwyldro? O ddifri nawr . . .