Chwyldro!

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Macsen » Llun 12 Gor 2004 3:29 pm

Gwilym a ddywedodd:Mae siarad am wleidyddiaeth yn un peth (braint y decadent, mae gwleidyddiaeth yn digwydd i bobl yn Iraq, Palestina, Afghanistan). Mae byw yn wleidyddol yn beth arall. Digon hawdd beirniadu'r byd o'n cadeiriau esmwyth. Peth arall ydi herio'r byd i newid.


Mi wnei di ffeindio'r holl drafod gwleidyddiaeth yn help pam ti'n chwalu cymdeithas mewn chwyldro ac yna ddim yn gwybod sut iw ail adeiladu. Os fysai chwildro heddiw, a bysat ti'n brif winidog yfory, fysat ti wir yn gwybod beth iw wneud gyda dy bwer?

Rheswm arall dros drafod gwleidyddiaeth yn lle herio'r byd a newid ydi dy fod ti, drwy ei drafod, yn darganfod dy fod ti'n anghywir ar nifer o bwyntiau, ac os fysat ti wedi ceisio newid y byd i'r cyfeiriad hwnnw dan yr argraff dy fod ti'n gwneud y peth iawn mi fysat ti yn y cach.

Dwi'n tarfod gwleidyddiaeth ar Maes-E yn lle herio'r byd (mi geith hynny ddod yn hwyrach) am nad ydw i'n gwybod fy mod i'n iawn am bopeth, ac eisiau gwneud yn siwr fy mod i cyn i fi wneud ffwl o fy hun.

Wedi dweud hynny dwi'm yn meddwl bod unrhyw safbwynt yn 'iawn'. Ffordd gwahanol o wneud pethau yw popeth yng ngwleidyddiaeth. Ond, wrth gwrs, mae rhai safbwyntiau yn amlwg yn anghywir.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Aran » Maw 13 Gor 2004 9:44 am

Macsen a ddywedodd:Wedi dweud hynny dwi'm yn meddwl bod unrhyw safbwynt yn 'iawn'. Ffordd gwahanol o wneud pethau yw popeth yng ngwleidyddiaeth. Ond, wrth gwrs, mae rhai safbwyntiau yn amlwg yn anghywir.


Swnio fel bo chdi ar y ffordd i ddatblygu achos clasurol o 'analysis paralysis'... :winc:

Gan amlaf, mae hunansicrwydd yn cyfrif am lawer mwy o fewn gwleidyddiaeth na bod yn gywir am beth - wedi'r cyfan, pwy sy'n medru barnu cywirdeb yn fanwl o fewn gwleidyddiaeth?

Mae'r pobl sy'n newid pethe bron i gyd yn arddel sicrwydd. Yn hyn o beth, mae llais Gwilym yn un diddorol.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Gwilym » Maw 13 Gor 2004 1:19 pm

Mi wnei di ffeindio'r holl drafod gwleidyddiaeth yn help pam ti'n chwalu cymdeithas mewn chwyldro ac yna ddim yn gwybod sut iw ail adeiladu.


Ddudes i ddim byd am chawlu cymdeithas. Eisiau cryfhau cymdeithas yw fy mwriad. Yn fy marn i mae cymdeithas yn wan ar y foment ac mewn perygl o farw'n llwyr. Er mwyn ei gryfhau mae'n rhaid ei newid.

Os fysai chwildro heddiw, a bysat ti'n brif winidog yfory, fysat ti wir yn gwybod beth iw wneud gyda dy bwer?


Tydi'r math o chwyldro rwy'n ceisio ei ennyn ddim yn mynd i ddigwydd heddiw na fory, ond mi gymerith amser hir i'w chwblhau. Gweler isod. Tydi bobl fel fi byth yn brif weinidogion oherwydd mae hi'n anodd i'r rhan fwyaf o bobl gymryd pobl fel fi o ddifri. Eniwe, fyswn i ddim mor drahaus ag esgus fy mod unigolyn yn medru sefyll ar byramid o bwer a chynrychioli miliynau o bobl yn hollol gyfiawn a theg.

Rheswm arall dros drafod gwleidyddiaeth yn lle herio'r byd a newid ydi dy fod ti, drwy ei drafod, yn darganfod dy fod ti'n anghywir ar nifer o bwyntiau, ac os fysat ti wedi ceisio newid y byd i'r cyfeiriad hwnnw dan yr argraff dy fod ti'n gwneud y peth iawn mi fysat ti yn y cach.


Digon gwir. Mae angen trafodaeth wrth gwrs. Ond pryd mae'r trafod yn dod i ben? Faint o bobl sydd yn newid eu meddyliau drwy'r fath drafod? Mae'r rhan fwyaf ohonom (os nad pob un) yn dod i'r trafodaethau hyn yn barod i amddiffyn ac i hyrwyddo ein safbwyntiau personol. Does 'na neb yn newid mor hawdd â hynny. Mae 'na ormod o drafod dyddie yma yn fy marn i, a dim digon o wneud.

Dwi'n tarfod gwleidyddiaeth ar Maes-E yn lle herio'r byd (mi geith hynny ddod yn hwyrach)


Dy ddewis di yw hynny. Dwi'n barod i wneud rhywbeth rwan. Rhaid cymryd pob cyfle a ddaw i'n rhan ar hyn o bryd i ddechrau newid pethe er y gwell.

am nad ydw i'n gwybod fy mod i'n iawn am bopeth, ac eisiau gwneud yn siwr fy mod i cyn i fi wneud ffwl o fy hun.


Paid byth bod ofn gwneud ffwl ohonot dy hun. Dwi ddim. Mae angen ffydd yn ein bywydau i wneud iddyn nhw gyfri. Fel y dywedodd Nelson Mandela ein pwer a'n golau sydd yn ein hofni, nid ein tywyllwch a'n gwendidau. Mi rydan ni ofn bod yn bwerus. Tydi ni'n chware'n fach ddim yn gwasanaethu dynoliaeth. Mi rydan ni'n blant y bydysawd anhygoel 'ma sy'n chwyrlio yn ei flaen heb 'run ots os ydym yn ran ohono neu beidio. Gwell gwneud y gore ohoni ddudwn i.

wedi dweud hynny dwi'm yn meddwl bod unrhyw safbwynt yn 'iawn'. Ffordd wahanol o wneud pethau yw popeth yng ngwleidyddiaeth.


Cofia, mi aeth Nietzche'n wallgof yn y diwedd. Ar ol archwilio'r safbwynt rwyt ti newydd ei gymryd a'i ddilyn i'r pen, a gwneud gwasanaeth mawr i'n traddodiad athronyddol wrth wneud, nid oedd ei ben bach meidrol yn medru dygymod â'r gwirionedd hwnnw a ddarganfyddodd - nad oes ystyr i fywyd ond yr hyn yr ydym yn dewis ei roi iddo. Y broblem oedd, nad oedd ganddo ddigon o hunan-ffydd i greu ystyr yn ei fywyd. Dewis ystyr ac yna ei fyw i'r gorau o'n gallu oedd gwers bywyd Nietzche.

Rwy'n ceisio hyrwyddo'r syniad ein bod ni angen creu democratiaeth, gan nad wyf yn credu ein bod ni'n byw mewn un ar hyn o bryd. Mae'r chwyldro rwy'n sôn amdano'n un ddemocrataidd oherwydd dyna'r unig ffordd deg o'i gyflawni. Rwy'n sôn am gael gwared ar y Tai Cyffredin yn Llundain. Gwneud gwleidyddiaeth (hanes ac athroniaeth) yn bwnc gorfodol yn ein hysgolion. I drefnu fod cymunedau yn pleidleisio yn aml ac yn gyson ar faterion y dydd, wedi eu cynghori gan y gwasanaeth sifil. Fyse'r cyhoedd wedi cynnal Sadam yn ariannol a chyda arfau yn ôl yn yr wythdegau? Fyse'r cyhoedd yn parhau i roi cymorth i ddiwydiannau sydd yn lladd yr amgylchfyd yn ddiangen (er mwyn elw) unwaith mae'r gwybodaeth lawn am ein hanghenion ynni wedi'i esbonio iddynt?
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Postiogan Aran » Maw 13 Gor 2004 2:52 pm

Un cwestiwn bach i ti Gwilym - mewn byd lle mae datblygiadau technolegol yn mynd â ni yn gyflym at sefyllfa lle bydd refferendwm yn bosibl ac yn rhad ar gyfer pob penderfyniad - pa mor gyfforddus byddet ti'n byw mewn democratiaeth pur, lle mae gen pawb mewnbwn cyson, lle mae democratiaeth torfol yn bodoli?

Cofia, y 'Sun' ydy'r papur newydd mwyaf poblogaidd ym Mhrydain.

Tydy democratiaeth ddim yn beth da i leiafrifoedd bob tro...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Gwilym » Gwe 16 Gor 2004 12:49 pm

Pwynt da. Tydw i ddim yn credu bod lleiafrif 'cynrychioliadol' yn mynd i wneud penderfyniadau mwy cyfiawn na'r dorf y maent yn ei gynrychioli. Os ydynt am wneud penderfyniadau gwahanol i'r hyn y buasai'r dorf yn ei wneud, a fedrwn ni ddweud eu bod nhw'n gynrychioliadol? A ydym yn byw mewn democratiaeth yn y sefyllfa hon? Os ydym am apelio i agweddau positif y natur ddynol yn ein gwleidyddion, pam na fedrwn apelio at yr un natur yn y dorf? Neu ydy'r gwleidyddion 'ma'n well na ni?

Digon gwir fod y cyhoedd, yn 'gyffredinol', yn gweld y byd drwy sbectol cartw^n y Sun a'i chwiorydd, ond mae'r fath ymwybyddiaeth lwgr ond yn bosib yn absenoldeb ymdrech uniongyrchol i ddarparu gwybodaeth cytbwys a phwyllog iddynt. Os yw'r gwybodaeth a roed i'r gwleidyddion o'r ansawdd uchaf, a'r cyngor maent yn ei dderbyn yn hollol ddidwyll, pam fuasai'r cyhoedd, gyda'r un wybodaeth a chyngor yn methu â gwneud y panderfyniad cywir? Oni fydda'r penderfyniad hwnnw'n un fwy democrataidd na phenderfyniad gwleidydd sydd yn ceisio eu cynrychioli?

Gellir sicrhau fod y gwybodaeth a ddarperir yn cael ei hystyried drwy wneud hi'n orfodol i bawb sydd am bleidleisio gymryd rhan mewn fforwm gymunedol ar y materion dan sylw, ac wedi cael cyfle i drafod eu syniadau ymysg eu gilydd.

Tan i ni roi cyfrifoldeb i'r cyhoedd fe wnawn nhw byth ymddwyn yn gyfrifol. Tan i'r cyhoedd sylweddoli eu bod nhw'n ran o'r byd real, ble mae eu penderfyniadau yn creu newidiadau yn eu hamgylchfyd, a wnawn nhw byth ddeall ein bod ni i gyd yn gyfrifol am y byd rydym yn byw ynddo?
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Postiogan Dielw » Gwe 16 Gor 2004 1:41 pm

Gwilym a ddywedodd:Dewis ystyr ac yna ei fyw i'r gorau o'n gallu oedd gwers bywyd Nietzche.
Dewis ystyr? :lol:
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Macsen » Gwe 16 Gor 2004 4:17 pm

Gwilym a ddywedodd:Digon gwir fod y cyhoedd, yn 'gyffredinol', yn gweld y byd drwy sbectol cartw^n y Sun a'i chwiorydd, ond mae'r fath ymwybyddiaeth lwgr ond yn bosib yn absenoldeb ymdrech uniongyrchol i ddarparu gwybodaeth cytbwys a phwyllog iddynt. Os yw'r gwybodaeth a roed i'r gwleidyddion o'r ansawdd uchaf, a'r cyngor maent yn ei dderbyn yn hollol ddidwyll, pam fuasai'r cyhoedd, gyda'r un wybodaeth a chyngor yn methu â gwneud y panderfyniad cywir? Oni fydda'r penderfyniad hwnnw'n un fwy democrataidd na phenderfyniad gwleidydd sydd yn ceisio eu cynrychioli?


Neges wych ar y cyfan Gwilym, ond mai rhai problemau. I'r cyhoedd fedru gwneud pob dewisiad gyda gwybodaeth o'r ansawdd uchaf, mae rhaid i'r cyhoedd gael gwybod popeth. Mae rhyddhau gwybodaeth sensatif am weithredoedd y wlad yn beth ofnadwy o beryg iw wneud. Hefyd, mae gwleidyddion yn cael ei talu i chwilota drwy dalp anferth o wybodaeth. Pa rai o'r cyhoedd fysai a'r mynedd gwneud hyn? A fyset ti'n fodlon ei talu nhw am gymeryd rhan yn y broses ddemocrataidd? Hyd yn oed wedyn, mi fysai'r mwyafrif yn anghofio'r gwybodaeth ac yn pledleisio ar gymhelliad. Os wyt ti'n meddwl cael ryw fath o system sy'n ffiltro'r darnau mwyaf pwysig i lawr i'r gymdeithas, rwyt ti nol yn styc gyda papurau newydd gwyrdueddol unwaith eto.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Gwilym » Mer 28 Gor 2004 1:47 pm

Macsen a ddywedodd:I'r cyhoedd fedru gwneud pob dewisiad gyda gwybodaeth o'r ansawdd uchaf, mae rhaid i'r cyhoedd gael gwybod popeth. Mae rhyddhau gwybodaeth sensitif am weithredoedd y wlad yn beth ofnadwy o beryg iw wneud.


Ydi, mae hyn yn broblem os oes gan wlad rhywbeth iw guddio. Ond mae gen i deimlad fod llywodraethau'n defnyddio'r un esgus i guddio gwybodaeth 'sensitif' o'r cyhoedd. Rwy'n credu y dylem edrych ar wladwriaeth fel unigolyn. Fel unigolyn, ydi hi'n gyfiawn cadw cyfrinachau wrth ddelio gydag unigolyn (gwladwriaeth) arall, yn enwedig mewn materion busnes neu gyfreithiol? Mae cyfrinachau 'cyfreithiol' yn fwy tebygol o guddio celwyddau. Pa wybodaeth sydd rhy sensitif i'w ryddhau os ydym am fyw mewn byd cyfiawn? Beth yw ein hegwyddorion? Beth sydd gennym ni i guddio? Mae gwybodaeth strategol am safleoedd milwrol yn haws fyth eu darganfod dros y we y dyddiau yma nag erioed o'r blaen.

Macsen a ddywedodd: Hefyd, mae gwleidyddion yn cael eu talu i chwilota drwy dalp anferth o wybodaeth. Pa rai o'r cyhoedd fysai a'r mynedd gwneud hyn? A fyset ti'n fodlon ei talu nhw am gymeryd rhan yn y broses ddemocrataidd?


Mae gwleidyddion yn delio gyda manylion cyfreithiol deddfau, sydd, yn ol pob son, yn gwneud talpiau anferth o waith. Efallai y dylem ni wahardd ysgrifennu unrhywbeth ar bapur pan ddaw'r chwyldro, er mwyn sicrhau fod pobl yn canolbwyntio ar ddefnyddio eu synnwyr cyffredin yn lle cael eu camarwain i gredu fod ffurflenni a dogfennau diflas yn bwysig.
Yn sicr byse angen gwasanaeth cyflawn i dacluso'r manylion cyfreithlon sydd ynghlwm wrth greu deddfau newydd. Ond rwy'n credu fod y rhan fwyaf o wleidyddion yn derbyn gwybodaeth weddol syml gan eu cynghorwyr wrth ystyried eu pleidlais, a nifer ohonynt yn dilyn arweiniad eu plaid (democratiaeth annibynnol?) heb ddeall llawer am y materion dan olwg. Yn gyffredinol pam na all y cyhoedd gymeryd cyfrifoldeb dros y penderfyniadau hyn? tydw i ddim yn credu y bydd hi'n bosib i'r cyhoedd wneud penderfyniad ar bob dim sydd yn dod i olwg gwleidydd ond mae'n sicr byse'r cyhoedd yn medru cymryd cyfrifoldeb dros y rhan fwyaf o'r penderfyniadau.

Macsen a ddywedodd: Hyd yn oed wedyn, mi fysai'r mwyafrif yn anghofio'r gwybodaeth ac yn pledleisio ar gymhelliad.


Gyda fforwm cymunedol sydd yn dod â phobl at ei gilydd i drafod, rwy'n credu byse nifer fawr yn mwynhau'r cyfle i wyntyllu eu barn yn gyhoeddus. Mi fyse hyn (rwy'n gobeithio) yn ennyn diwylliant ble mae gwleidyddiaeth (cyfrifoldeb) yn ganolog i fywyd cymdeithasol pobl.

Macesn a ddywedodd: Os wyt ti'n meddwl cael ryw fath o system sy'n ffiltro'r darnau mwyaf pwysig i lawr i'r gymdeithas, rwyt ti nol yn styc gyda papurau newydd gwyrdueddol unwaith eto.


Rwy'n credu y medrwn wneud yn well na hyn. Mae'r BBC yn arwydd (er nad yw'n berffaith o bell ffordd) fod gwybodaeth o ansawdd uchel yn medru cael ei drosglwyddo i'r cyhoedd yn annibynnol o'r wladwriaeth. Mae safonau academaidd ein colegau hefyd yn arwydd fod ein cymdeithas a'r gallu i greu, trosglwyddo a defnyddio gwybodaeth 'wrthrychol' yn gall ac yn ddoeth.
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Postiogan Gwilym » Mer 28 Gor 2004 1:48 pm

Dielw a ddywedodd:
Gwilym a ddywedodd:Dewis ystyr ac yna ei fyw i'r gorau o'n gallu oedd gwers bywyd Nietzche.
Dewis ystyr? :lol:


Mae'n anoddach nag y mae'n swnio.
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Postiogan Dielw » Mer 28 Gor 2004 2:03 pm

Wel pob lwc beth bynnag. Mae'r rhan fwyaf yn gwneud yr hyn sy'n eu gwneud nhw'n hapus, beth bynnag yw hynny, heb ystyried be di ystyr bywyd. Mae dewis ystyr yn anodd os nad ydych chi'n credu bod ffasiwn beth.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron