Mi wnei di ffeindio'r holl drafod gwleidyddiaeth yn help pam ti'n chwalu cymdeithas mewn chwyldro ac yna ddim yn gwybod sut iw ail adeiladu.
Ddudes i ddim byd am chawlu cymdeithas. Eisiau cryfhau cymdeithas yw fy mwriad. Yn fy marn i mae cymdeithas yn wan ar y foment ac mewn perygl o farw'n llwyr. Er mwyn ei gryfhau mae'n rhaid ei newid.
Os fysai chwildro heddiw, a bysat ti'n brif winidog yfory, fysat ti wir yn gwybod beth iw wneud gyda dy bwer?
Tydi'r math o chwyldro rwy'n ceisio ei ennyn ddim yn mynd i ddigwydd heddiw na fory, ond mi gymerith amser hir i'w chwblhau. Gweler isod. Tydi bobl fel fi byth yn brif weinidogion oherwydd mae hi'n anodd i'r rhan fwyaf o bobl gymryd pobl fel fi o ddifri. Eniwe, fyswn i ddim mor drahaus ag esgus fy mod unigolyn yn medru sefyll ar byramid o bwer a chynrychioli miliynau o bobl yn hollol gyfiawn a theg.
Rheswm arall dros drafod gwleidyddiaeth yn lle herio'r byd a newid ydi dy fod ti, drwy ei drafod, yn darganfod dy fod ti'n anghywir ar nifer o bwyntiau, ac os fysat ti wedi ceisio newid y byd i'r cyfeiriad hwnnw dan yr argraff dy fod ti'n gwneud y peth iawn mi fysat ti yn y cach.
Digon gwir. Mae angen trafodaeth wrth gwrs. Ond pryd mae'r trafod yn dod i ben? Faint o bobl sydd yn newid eu meddyliau drwy'r fath drafod? Mae'r rhan fwyaf ohonom (os nad pob un) yn dod i'r trafodaethau hyn yn barod i amddiffyn ac i hyrwyddo ein safbwyntiau personol. Does 'na neb yn newid mor hawdd â hynny. Mae 'na ormod o drafod dyddie yma yn fy marn i, a dim digon o wneud.
Dwi'n tarfod gwleidyddiaeth ar Maes-E yn lle herio'r byd (mi geith hynny ddod yn hwyrach)
Dy ddewis di yw hynny. Dwi'n barod i wneud rhywbeth rwan. Rhaid cymryd pob cyfle a ddaw i'n rhan ar hyn o bryd i ddechrau newid pethe er y gwell.
am nad ydw i'n gwybod fy mod i'n iawn am bopeth, ac eisiau gwneud yn siwr fy mod i cyn i fi wneud ffwl o fy hun.
Paid byth bod ofn gwneud ffwl ohonot dy hun. Dwi ddim. Mae angen ffydd yn ein bywydau i wneud iddyn nhw gyfri. Fel y dywedodd Nelson Mandela ein pwer a'n golau sydd yn ein hofni, nid ein tywyllwch a'n gwendidau. Mi rydan ni ofn bod yn bwerus. Tydi ni'n chware'n fach ddim yn gwasanaethu dynoliaeth. Mi rydan ni'n blant y bydysawd anhygoel 'ma sy'n chwyrlio yn ei flaen heb 'run ots os ydym yn ran ohono neu beidio. Gwell gwneud y gore ohoni ddudwn i.
wedi dweud hynny dwi'm yn meddwl bod unrhyw safbwynt yn 'iawn'. Ffordd wahanol o wneud pethau yw popeth yng ngwleidyddiaeth.
Cofia, mi aeth Nietzche'n wallgof yn y diwedd. Ar ol archwilio'r safbwynt rwyt ti newydd ei gymryd a'i ddilyn i'r pen, a gwneud gwasanaeth mawr i'n traddodiad athronyddol wrth wneud, nid oedd ei ben bach meidrol yn medru dygymod â'r gwirionedd hwnnw a ddarganfyddodd - nad oes ystyr i fywyd ond yr hyn yr ydym yn dewis ei roi iddo. Y broblem oedd, nad oedd ganddo ddigon o hunan-ffydd i greu ystyr yn ei fywyd. Dewis ystyr ac yna ei fyw i'r gorau o'n gallu oedd gwers bywyd Nietzche.
Rwy'n ceisio hyrwyddo'r syniad ein bod ni angen creu democratiaeth, gan nad wyf yn credu ein bod ni'n byw mewn un ar hyn o bryd. Mae'r chwyldro rwy'n sôn amdano'n un ddemocrataidd oherwydd dyna'r unig ffordd deg o'i gyflawni. Rwy'n sôn am gael gwared ar y Tai Cyffredin yn Llundain. Gwneud gwleidyddiaeth (hanes ac athroniaeth) yn bwnc gorfodol yn ein hysgolion. I drefnu fod cymunedau yn pleidleisio yn aml ac yn gyson ar faterion y dydd, wedi eu cynghori gan y gwasanaeth sifil. Fyse'r cyhoedd wedi cynnal Sadam yn ariannol a chyda arfau yn ôl yn yr wythdegau? Fyse'r cyhoedd yn parhau i roi cymorth i ddiwydiannau sydd yn lladd yr amgylchfyd yn ddiangen (er mwyn elw) unwaith mae'r gwybodaeth lawn am ein hanghenion ynni wedi'i esbonio iddynt?