Mae achos Mark Bowen yn cael ei orfodi i adael tim hyfforddi Cymru oherwydd rhwymiadau ei glwb, Birmingham City - oedd yn wrthwynebus iddo gymryd rhan yn set-yp Cymru - yn wyddus i bawb.
Rwan mae'r olwyn wedi troi, a mae Mark Hughes wedi defnyddio 'rheol pedwar diwrnod FIFA' i wneud yn siwr y bydd Robbie Savage a tri chwaraewr arall sydd gan gemau clwb ar y Sul cyn trip Cymru i Azerbaijan yn ymuno a sgwad Cymru mewn digon o bryd i hyfforddi etc.
Beth ydi ymateb Birmingham City? A be ydi ymateb y wasg 'Brydeinig' i hyn?
Yn y Sunday People ddoe roedd adroddiad ar gem Birmingham a Bolton, a roedd Robbie Savage wedi cael Man of the Match. Dyfynaf y paragraff perthnasol, ynghyd a'r sub-heading uwch ei phen:-
FURIOUS
"Yesterday, as per usual, Savage was at the heart of everything and it was his 73rd-minute goal that knocked the stuffing out of 10-man Bolton. It must have felt oh so good. Birmingham have been understandably furious with Mark Hughes and the way he has invoked the four-day rule that will rob them of the Welsh international for the game against Fulham in a fortnight."
Deud o i gyd dydi?