Yr 'U' yn darfod amdani

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gwen » Iau 29 Gor 2004 10:07 pm

Mae'r 'ei' a 'hi' yn cyfateb i'w gilydd beth bynnag. Mi ellid gwneud heb yr 'hi' yn ysgrifenedig, ond dwi'n tueddu i sgwennu yn eitha llafar ar y maes. Mae hynny hefyd yn rhoi balans i'r frawddeg ac yn tynnu sylw nôl ar y gwrthrych - gwrthrych y frawddeg a gwrthrych y drafodaeth.

Ta waeth am hyn i gyd, ti o'r gogledd-ddwyrain a chdi sy'n cadw'r sain yn fyw. Ddylian ni ddim bod yn dadla am ryw 'ei' ac 'eu' a ballu beth bynnag gan mai petha cymharol newydd yn yr iaith ydyn nhw - 'i' fydda'r hen Gymry yn ei ddweud ym mhob cyd-destun. :D
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Ramirez » Gwe 30 Gor 2004 2:03 am

Gwen sy'n iawn Huw.

ei dweud hi.

eu dweud nhw.

Dim ond y darn yna o'r frawddeg sy'n bwysig, dim otsh am be sy'n dod cynt. Yr 'U' ydi'r 'hi' yn y frawddeg. Os fasani'n son am lond berfa o 'U', yna mi fasa dy 'eu' di yn iawn, ond mi fasa'r frawddeg yn 'eu dweud nhw'.

Yn anffodus, dim ond un 'U' dani'n ei thrafod yn fama, ac os na mond un sy'na, yna dani yn 'ei dweud hi'.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 30 Gor 2004 8:40 am

Gwen sy'n iawn. Ti di cam-ddeall yn llwyr Huw.
Croeso i ti gychwyn trafodaeth yn gloywi iaith os lici di, dwi'n siwr gawn ni hwyl :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan sian » Gwe 30 Gor 2004 2:03 pm

Gwen sy'n iawn - ac mae ei mam hi'n dod o Drefor so mae hi bownd o fod yn iawn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Gwen » Gwe 30 Gor 2004 2:25 pm

sian a ddywedodd:Gwen sy'n iawn - ac mae ei mam hi'n dod o Drefor so mae hi bownd o fod yn iawn.


A Nain sy'n deud wrth bobol 'mod i'n sgolar :wps: ond ddim yn ddiweddar gan 'mod i wedi dyweddio. Dydi sgolars ddim yn gwneud petha felly! :lol:

Beth bynnag, oes gan rywun ryw ddamcaniaeth bellach am farwolaeth yr u?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 30 Gor 2004 3:17 pm

Dwi'n sefyll wrth fy namcaniaeth wreiddiol Gwen, er dwi'n amau dy fod yn bod braidd yn 'premature' yn son am ei marwolaeth.
Mae hi dal efo ni, ac mi fydd am amser hir dwi'n siwr. Mi fydd gogs yn dal i allu gwahaniaethu rhwng u bedol ac i dot am ganrifoedd i ddod. Jest wedi 'mellowio' rhyw fymryn ma hi.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Ramirez » Gwe 30 Gor 2004 3:20 pm

Ai. dwi'n beio'r drygs.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan sian » Gwe 30 Gor 2004 3:24 pm

Hen bryd iddi fynd ddyweda i - falle neith y plant stopio chwerthin am 'y mhen i wedyn am bo fi'n ffaelu ei dweud hi!
A phobol o'r de stopio dweud "W! ti 'di mynd yn Ogleddol!" - alla i ddim ennill - a bai'r "u" yw'r cwbwl!!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Cardi Bach » Gwe 30 Gor 2004 3:31 pm

nawr fi'n gweld hwn, a ma raid i fi gydymdeimlo a thi gwen - unweth ma rhywun yn dechre trafod acenion yng nghymru ma hi'n mynd yn 'ni'n well na chi' ayb :rolio:

ond heb drio dadlau paw sy'n well neu pwy sy'n iawn, ga i awgrymu fod cyfraniad ynghynt yn gweud fod gogleddwr yn cymysgu o glywed hwntws yng ynganu i ac u yr un peth, ond onid oes dadl hefyd i ddweud nad yw'r hwntws yn cael y trafferth i ddadansoddi beth mae rywun yn ddweud? fod y canrifoedd wedi golygu fod ymennydd yr 'hwntws' yn gallu handlo gwahaniaethu rhwng dau air sy'n swno run peth jest fod cyd-destun gwahanol.
Chi'n deall be sda fi?
Wy ddim yn gweud fod hyn yn well neu gwath chwaith.

Ma nghariad i yn dod o ochre Corwen, a chysylltiade cryf a Bala ac ma'r 'u' ogleddol yn yffyrnol o gryf gyda hi a'r bobol o fforna i'r gradde bo chi'n gweld eu tafode nhw'n stico mas a wedi cwrlo pan yn i weud e! :lol: . Gogledd ddwyrain-ish.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 30 Gor 2004 7:14 pm

Gigon gwir Cardi, fel ma ymenydd unrhywun wedi cyflyru i wbod os ydi rhywyn yn golygu ty neu tu, cae neu cau er fod y rheina yn swnio run fath hyd yn oed i gogs.
Y broblem fwya sydd gan ddeheuwyr yn sgil y ffaith nad ydyn nhw ddim yn gwahaniaethu rhwng 'u' ac 'i' ar lafar ydi eu bod nhw methu blydi sillafu! Oeddwn i arfer sbio drwy draethode ffrind deheuol i mi'n coleg cyn iddo fo roi nhw i mewn, er mwyn newid yr u's yn i's a'r i's yn u's.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai