Mae'r 'ei' a 'hi' yn cyfateb i'w gilydd beth bynnag. Mi ellid gwneud heb yr 'hi' yn ysgrifenedig, ond dwi'n tueddu i sgwennu yn eitha llafar ar y maes. Mae hynny hefyd yn rhoi balans i'r frawddeg ac yn tynnu sylw nôl ar y gwrthrych - gwrthrych y frawddeg a gwrthrych y drafodaeth.
Ta waeth am hyn i gyd, ti o'r gogledd-ddwyrain a chdi sy'n cadw'r sain yn fyw. Ddylian ni ddim bod yn dadla am ryw 'ei' ac 'eu' a ballu beth bynnag gan mai petha cymharol newydd yn yr iaith ydyn nhw - 'i' fydda'r hen Gymry yn ei ddweud ym mhob cyd-destun.