to bach ar goll...;-)

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

to bach ar goll...;-)

Postiogan Aran » Maw 03 Awst 2004 12:33 pm

wrth fy modd efo hyn ar wefan ICWales...

Prawfddarllenydd gofalus a ddywedodd:Now a North Wales software company has written a program that spells the end of the confusion. There is no longer any excuse for writing Ynys Mon for Anglesey, instead of the correct Ynys M n.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan brenin alltud » Mer 04 Awst 2004 10:45 am

:D


Be' sy'n achosi'r broblem? Yw e'n digwydd pan mae'r sawl sy'n rhaglennu'r wefan yn trosi'r ddogfen Word? Pethe fel'ma dylse Bwrdd yr Iaith eu taclo... gwnewch y pethau bychain, lads

Ti'n steddfod gyda llaw aran?
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Aran » Mer 04 Awst 2004 11:16 am

Dw i'm yn siwr deud y gwir, 'sai'n ddiddorol clywed gan rhai o'r tecis - rhywbeth i'w wneud efo pa font-set sydd ar gael neu wbath felly, ond chwarae teg i IC Ales am gael popeth yn rong mor aml a fedran nhw... :winc:

nac ydw cofia, pethe 'di bod yn gythryblus gennon ni, bu bron i mi gael 'ngorfodi i ddreifio'r holl ffordd er mwyn rhoi cyflwyniad 5 munud heddiw 'ma! ond wedi dianc - eryri a'r cyffiniau amdani meddai fi...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan dafydd » Mer 04 Awst 2004 11:21 am

brenin alltud a ddywedodd:Be' sy'n achosi'r broblem? Yw e'n digwydd pan mae'r sawl sy'n rhaglennu'r wefan yn trosi'r ddogfen Word? Pethe fel'ma dylse Bwrdd yr Iaith eu taclo... gwnewch y pethau bychain, lads

Ie dylai Bwrdd yr Iaith roi cefnogaeth TG am ddim i bawb ac efallai paratoi canllawiau ar y ffordd orau i rywun sychu ei tîn

Problem pwy bynnag sy'n gofalu am 'wefan' ICWales yw hwn - mae'n job weddol hawdd i unrhyw staff technegol gyda cliw.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Aran » Mer 04 Awst 2004 11:27 am

dafydd a ddywedodd:
brenin alltud a ddywedodd:Be' sy'n achosi'r broblem? Yw e'n digwydd pan mae'r sawl sy'n rhaglennu'r wefan yn trosi'r ddogfen Word? Pethe fel'ma dylse Bwrdd yr Iaith eu taclo... gwnewch y pethau bychain, lads

Ie dylai Bwrdd yr Iaith roi cefnogaeth TG am ddim i bawb ac efallai paratoi canllawiau ar y ffordd orau i rywun sychu ei tîn.


Dwi'n meddwl bod y Brenin Alltud yn awgrymu y dylai'r Bwrdd helpu sicrhau bod pawb yn dallt sut yn union mae hyn yn digwydd fel bod modd ei osgoi - dim yn afresymol, deud y gwir.

Ti'n deci, dafydd? Beth yn union sy'n digwydd pan mae Môn yn dod allan yn M n? Byddai'n ddiddorol gwybod...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan dafydd » Mer 04 Awst 2004 12:21 pm

Aran a ddywedodd:Dwi'n meddwl bod y Brenin Alltud yn awgrymu y dylai'r Bwrdd helpu sicrhau bod pawb yn dallt sut yn union mae hyn yn digwydd fel bod modd ei osgoi - dim yn afresymol, deud y gwir.

Pam? Does gan BIG ddim sgiliau technegol arbennig. Mae papurau newydd a gwefannau yn cael eu paratoi gyda amrywiaeth eang iawn o feddalwedd a'r unig bobl sy'n gwybod sut i sicrhau trosglwyddiad testun drwy wahanol systemau yw'r bobl sy'n gyfrifol.

Aran a ddywedodd:Ti'n deci, dafydd? Beth yn union sy'n digwydd pan mae Môn yn dod allan yn M n? Byddai'n ddiddorol gwybod...

Dim ond Trinity Mirror all ddweud hynny. Mae'n siwr fod yna system fewnol i storio testun ar gyfer eu papurau i gyd, efallai rhywbeth arbennigol ar gyfer ei gwasg argraffu - gallai fod yr acenion wedi ei storio mewn ffurf ansafonol.

Mae'n bosib fod ganddyn nhw raglen wedi ei sgrifennu'n arbennig er mwyn sugno'r wybodaeth allan o'r system fewnol yma i greu bloc o html ar gyfer y stori. Mae pwy bynnag sydd wedi sgrifennu'r rhaglen wedi anghofio neu wedi methu ffeindio ffordd o gyfieithu'r acenion i god html (neu UTF-8 ). Gan fod bwlch yna, mae'n edrych fel fod rhywbeth wedi trio cyfieithu'r lythyren ond wedi ei methu a rhoi bwlch yn ei le (sydd yn beth od ond falle ei fod e'n quirk o'r meddalwedd)
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Aran » Mer 04 Awst 2004 1:22 pm

dafydd a ddywedodd:Pam? Does gan BIG ddim sgiliau technegol arbennig.


Wel nagoes, ond maen nhw mewn sefyllfa da i fod yn ganolbwynt ar gyfer materion sydd yn ymwneud â'r iaith, ac efallai byddai mwy o bobl yn gwybod am y Bwrdd na beth fuasai'n gwybod am ymgynghorwyr annibynnol gwerthchweil...

Deud y gwir, yn bersonol fuaswn i'n teimlo bod mwy o rôl i'r Bwrdd fynd ar ôl cwmniau megis IC Ales a rhoi pwysau arnyn nhw i sortio eu hunain allan, ond dydy'n annwyl Bwrdd ddim fel tasen nhw'n mwynhau dangos eu dannedd...

dafydd a ddywedodd:Mae pwy bynnag sydd wedi sgrifennu'r rhaglen wedi anghofio neu wedi methu ffeindio ffordd o gyfieithu'r acenion i god html (neu UTF-8 ).


Difyr - felly ella bod ganddyn nhw CMS sydd ddim yn adnabod acenion Cymraeg, mor syml â hynny? Gwael iawn, os felly... beth yn union ydy UTF-8 (mae gen i ddealltwriaeth cyffredin, ond dio'm yn fanwl, ti'n gweld)?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Mr Gasyth » Mer 04 Awst 2004 2:09 pm

Aran a ddywedodd:Deud y gwir, yn bersonol fuaswn i'n teimlo bod mwy o rôl i'r Bwrdd fynd ar ôl cwmniau megis IC Ales a rhoi pwysau arnyn nhw i sortio eu hunain allan, ond dydy'n annwyl Bwrdd ddim fel tasen nhw'n mwynhau dangos eu dannedd...


Er mwyn y nefoedd, a sefyllfa'r iaith fel ma hi faswn i'n meddwl fod yne bethe pwysicach allith Bwrdd yr Iaith fod yn ei gwneud ac yn llychio arian atyn nhw na gneud yn siwr fod yn a do bach ar ben Mon yn y Western Mail, sydd yn bapur Saesneg ei iaith eniwe. Fase hanner y Cymry Cymraeg ddim yn gwbod ei fod o fod yne beth bynnag.
'gwnewch y pethau bychain' digon teg, ond sy'm isho bod yn wirion nagoes.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan dafydd » Mer 04 Awst 2004 2:12 pm

Aran a ddywedodd:Deud y gwir, yn bersonol fuaswn i'n teimlo bod mwy o rôl i'r Bwrdd fynd ar ôl cwmniau megis IC Ales a rhoi pwysau arnyn nhw i sortio eu hunain allan, ond dydy'n annwyl Bwrdd ddim fel tasen nhw'n mwynhau dangos eu dannedd...

Mae'n dibynnu ar faint o'r cyhoedd sy'n cwyno'n uniongyrchol a faint o gliw sydd yn Trinity ar ffordd i ddatrys y broblem.

Mi roedd Golwg am flynyddoedd lawer yn methu rhoi acenion o gwbl yn eu testun ac yna yn trio am hydoedd ond roedd e'n dod allan yn anghywir wedi iddo fynd drwy'r wasg. Dyw S4C dal heb lwyddo i gael llythrennau acennog yn gywir ar y wybodaeth rhaglenni sy'n cael ei ddangos ar setiau digidol daearol - er fod y dechnoleg wedi ei gynllunio'n ofalus i gefnogi y Gymraeg.

Hynny yw, mae llawer tu ôl y llenni yn ymdrechu i fod yn gywir ond mae'n gythreulig o anodd gan fod rhywbeth bob tro yn y gadwyn o'r cyfrifiadur i'r wasg (neu o'r darlledwr i'r bocs bach digidol) wedi ei lunio gan rhywun sy'n credu mai saesneg yw'r unig iaith yn y byd.

Aran a ddywedodd:Difyr - felly ella bod ganddyn nhw CMS sydd ddim yn adnabod acenion Cymraeg, mor syml â hynny? Gwael iawn, os felly... beth yn union ydy UTF-8 (mae gen i ddealltwriaeth cyffredin, ond dio'm yn fanwl, ti'n gweld)?

UTF-8 yw'r ffurf hawsa o sgrifennu llythrennau Unicode sy'n cynnwys llythrennau acennog ynghyd a gwyddorau rhan fwyaf o ieithoedd arall y byd.

Mae llythrennau ASCII (neu'r wyddor saesneg syml) yn ffitio yn uniongyrchol i fewn i set lythrennau UTF-8 . Y broblem yw - os oes rhywun yn teipio â i fewn o beiriant Windows, mae'n cael ei ddanfon i'r gweinydd gyda set lythrennau Windows-1252 sydd yn defnyddio codau gwahanol i Unicode. Dwi'n meddwl fod OS/X a Linux yn danfon testun drwy UTF-8.

Ar y gweinydd mae'n bosib newid Windows-1252 i UTF-8 os ydych chi'n siwr fod y cynnwys wedi dod o Windows a felly mi fydd y testun yn y gronfa ddata mewn fformat 'saff'.

Yn ôl beth dwi newydd drio.. mae meddalwedd phpbb yn newid llythrennau acennog yn syth i godau HTML yn hytrach na UTF-8 . Mae hyn yn iawn am nawr, ond yn y dyfodol agos pan fydd pob system yn gweithio gyda UTF-8 yn naturiol fe ddylai fod yn bosib torri a phastio testun o un lle i'r llall heb golli dim byd (croesi bysedd)
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Aran » Mer 04 Awst 2004 2:29 pm

Aled a ddywedodd:Er mwyn y nefoedd, a sefyllfa'r iaith fel ma hi...


Gorymateb braidd, ti'm yn meddwl? Dw i'm yn cofio neb yn deud y dylai hyn fod yn flaenoriaeth - ac mae hon yn wefan drafod, wedi'r cyfan.

Diolch, dafydd - diddorol gweld pa mor gymhleth ydy'r peth. Mae'n ymddangos y byddai rhyw fath o safoni yn y maes yn gymorth i lawer, sydd wrth gwrs yn wir am ddigon o bethe eraill arlein, hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron