krustysnaks a ddywedodd:felly beth yw dy awgrymiadau am derm arall?
beth sydd am eilyddio edefyn?
Trafodaeth, Pwnc, Testun, Pwnc Trafod, Testun Trafod.
Tra mod i arni be am Gwenogluniau? Di'r gair yma'n cyfleu sod all i mi. Be sydd o'i le ar Stumiau, Gwyneba Gwirion, Gwen Luniau. Unwaith eto trosiad slafaidd o Smileys.
Beth am rthithffurf - gair stiff drybeilig - be am llun personol.
Gormod o gyfieithu yn syth o'r geiriadur heb gamu nol am chydig a meddwl beth yw ystyr y termau Saesneg ma a thrio cyfleu'r ystyr hwnw yn y term Cymraeg. Dwi'm yn dweud mai'n awgrymiadau i yw'r ateb ond ma angen trio defnyddio geiriau symlach yn hytrach na ryw eiriau hyll a stiff, sy'n neud i Gymraeg edrych fel ryw iaith uffernol o stiff. Pan ma bobl yn chwarae Pel-droed ma'r hyfforddwr yn dweud "keep it simple" - dyna sydd angen wrth gyfieithu termau dim creu ryw eiriau stiff anealladwy.