Cathays

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cathays

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 12 Awst 2004 11:35 am

Dwi'm meddwl fod hwn wedi ei drafod yn y gorffennol ar y maes, ond a oes enw Cymraeg i'r ardal hyn o Gaerdydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 12 Awst 2004 11:36 am

Rwy' wedi gweld rhywun yn defnyddio Caer Athwys, ond ceilliau llwyr yw hyn, mi dybiaf. S'mo Brwsi-wsi-woo yn cynnig affliw o ddim.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Geraint Edwards » Iau 12 Awst 2004 12:39 pm

Mae angen enw Cymraeg deffinitive ar y lle yma, unwaith ac am byth.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 12 Awst 2004 1:01 pm

Geraint Edwards a ddywedodd:Mae angen enw Cymraeg deffinitive ar y lle yma, unwaith ac am byth.


Pam? :?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Barbarella » Iau 12 Awst 2004 1:03 pm

Os dwi'n cofio'n iawn, enw Ffrangeg yw Cathays yn wreiddiol... rhywbeth am berthi dwi'n meddwl (gwrych = haie).

Ai chwilio am enw Cymraeg y'n ni, neu enw sy ddim yn Saesneg? ;-) Os yr olaf, mae Cathays yn iawn...
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 12 Awst 2004 1:06 pm

Hollol, Babs. Byddai 'chwilio am enw Cymraeg' yn llwyr ymwrthod ag unrhyw ddylanwad arall ar ardal sydd wedi bod yn gosmopolitanaidd ers oes pys. Beth yw'r pwynt 'chwilio am enw Cymraeg' os nad yw o reidrwydd yn bodoli? Os yw'n bodoli, gwych, ond s'dim pwynt bathu enw.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Geraint » Iau 12 Awst 2004 1:42 pm

Darllenes i rhywle unwaith, fod yr hayes yn dod o'r saesneg fel dwedodd babs, ond efallai fod y Cat yn dod o'r gair Cymraeg 'Gad', am i frwydr cymryd lle yno unwaith. Felly cyfuniad o saesneg a cymraeg ydyw!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Geraint Edwards » Iau 12 Awst 2004 1:51 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Geraint Edwards a ddywedodd:Mae angen enw Cymraeg deffinitive ar y lle yma, unwaith ac am byth.


Pam? :?


Pam lai? Mae na ddigon o enghreifftiau o bobl o'r tu allan wedi rhoi enwau diarth ar lefydd yng Nghymru, lle oedd enwau Cymraeg yn bodoli yn y llefydd hyn eisioes (e.e. Kingsland/Penllechnest, Môn/Anglesey, tai haf ardal Harlech :rolio: ...). Os cawn nhw wneud hynny, be sydd yn stopio ni rhag cael enwau Cymraeg ar lefydd sydd ond ar hyn o bryd gydag enwau Saesneg/Normanaidd?

Mae na safle ar y we rywle (dwi'n meddwl) sydd yn rhoi esboniad manwl o darddiad "Cathays", ond fedrai'm yn fy myw ei ffeindio!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Geraint » Iau 12 Awst 2004 1:51 pm

Dyma'r linc

CATHAYS
The Cat Hayes. The immediate north-eastern suburb of Cardiff. The name originally stood for an open tract of common land, now represented by Cathays Park. The name, which is found at other towns also, would seem to point to the site of a battle - -Welsh cad, Irish cath.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Geraint Edwards » Iau 12 Awst 2004 1:58 pm

Geraint a ddywedodd:Dyma'r linc

CATHAYS
The Cat Hayes. The immediate north-eastern suburb of Cardiff. The name originally stood for an open tract of common land, now represented by Cathays Park. The name, which is found at other towns also, would seem to point to the site of a battle - -Welsh cad, Irish cath.


Byddai "Maesygad" neu "Cadfaes" yn gallu bod yn enw go lew i'r lle yn Gymraeg, does bosib.

Maes = Saes. "hayes"
+ Gad = treiglad meddal o Cym. "cad" = brwydr.

Be dachin ei feddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai