Pwt bach o sgript Jafa dw i'n cadw <a href="http://morfablog.com/rhithfro/rhithfro.js">yma</a> sy'n rhestru bob blog Cymraeg dw i'n gwybod amdano.
<b>Sut mae defnyddio fe?</b>
Copïa'r côd isod i mewn i batrymlun dy flog, yn y lle addas, a bydd rhestr o flogiau Cymraeg yn ymddangos yn awtomatig.
- Cod: Dewis popeth
<script language="JavaScript" src="http://morfablog.com/rhithfro/rhithfro.js"></script>
<b>Mae'r ffont yn rhy fawr/fach/goch/beth bynnag!</b>
Does dim tagiau fformato yn y sgript, dim ond rhestr testun plein gyda tag [br /] rhwng bob llinell, felly bydd rhaid i ti lapio'r côd uchod gyda'r tagiau priodol. Ar y rhan fwya o batrymluniau Blogger, er enghraifft, bydd rhaid rhoi rhywbeth fel hyn:
- Cod: Dewis popeth
<h2 class="sidebar-title">Blogiau Cymraeg</h2>
<p>
<script language="JavaScript" src="http://morfablog.com/rhithfro/rhithfro.js"></script>
</p>
<b>Mae cwestiwn arall 'da fi!</b>
Cwl, beth yw e?
Mae cwpl o gwestiynau 'da fi, hefyd.
Nawr bod Rhestr y Rhithfro yn dechrau tyfu, bydd rhaid i fi fod yn fwy llym am ei dwtio. Dw i'n gwybod nid yw pawb mor flogiog â'i gilydd, felly beth mae pobl yn meddwl yw canllaw defnyddio ar gyfer penderfynnu i gadw blog ar y rhestr neu'i ddileu? Ddim wedi diweddaru mewn dau fis? Tri?
Os ydy'r rhestr yn tyfu lot mwy (a dyna'r gobaith, wrth gwrs) bydd rhaid i ni feddwl am ddull wahanol o gadw trac o'r blogiau Cymraeg. Unrhyw syniadau?
Mae sawl enghraifft o gymunedau o flogwyr - <a href="http://www.britblog.com/">Britblog</a> er engraifft, ond dw i'n cymryd na fyddai llawer ohonon ni eisiau ymuno â honno. Ydy hyn yn fodel i ni'r blogwyr Cymraeg. Wnaeth rhywun awgrymu yn diweddar (dw i'n anghofio pwy, sori) y dylen ni drial bod yn fwy cynhwysfawr a chreu cymuned o flogwyr <b>Cymreig</b> a nid jyst <b>Cymraeg</b>, hynny yw rhywbeth dwyieithog. Dw i ddim yn siwr am hynny. Beth mae pobl eraill yn meddwl?