Selador a ddywedodd:Gwilym a ddywedodd: Efallai y dylem ni wahardd ysgrifennu unrhywbeth ar bapur pan ddaw'r chwyldro, er mwyn sicrhau fod pobl yn canolbwyntio ar ddefnyddio eu synnwyr cyffredin yn lle cael eu camarwain i gredu fod ffurflenni a dogfennau diflas yn bwysig
Gwilym, ti'n honni ar un llaw mai pwrpas y chwyldro ydi gwneud Joe Bloggs yn fwy goleuedig fel bod pawb yn medru cymeryd rhan cyfrifol mewn Gwleidyddiaeth ac effeithio'r ffordd mae'r wlad yn cael ei rheoli, ac ar y llaw arall, tisho gwahardd ysgrifen, un o'r unig betha sy'n ein gwahanu oddi wrth yr anifeiliaid!
Selador a ddywedodd: elli di'm cal gwarad o'r problema ma i gyd drwy jest 'gael chwyldo.' Di petha'm mor syml a hynny.
Selador a ddywedodd: Hefyd dwi'n anghytunno efo chdi ynglyn a newid agwedd y werin datws. Diom yn bosib, jest darllan y Sun neu gwylia 'Big Brother'.
Selador a ddywedodd: Gwraidd pob problem fodern yn y bôn, ydi cyfalafiaeth. Os tisho newid petha; Y Comiwnyddion Yng Nghymru
Gwilyn a ddywedodd:A tydi diffinio'r byd yn nhermau materol economaidd yn unig ddim yn helpu chwaith
ceribethlem a ddywedodd:selador a ddywedodd:Wedi darllen Animal Farm diolch yn fawr. sylwa mai unigolion sy'n rheoli'r ffarm, a manwn foch.
Sylwa taw alegori oedd "Animal Farm" nid stori ddogfen!
Meiji Tomimoto a ddywedodd:Sori. Be 'di barn pobl am newid pethau o'r tu fewn?
H.Y mynd yn gynghorydd neu wbath?
ceribethlem a ddywedodd:selador a ddywedodd:Wedi darllen Animal Farm diolch yn fawr. sylwa mai unigolion sy'n rheoli'r ffarm, a manwn foch.
Sylwa taw alegori oedd "Animal Farm" nid stori ddogfen!
Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 45 gwestai