Cam Un - golygu'r patrymlun (posted by, comments, archives ayb)
Hawddi pawddi.
Mewngofnodi i Blogger a rho glech ar enw dy flog i gyrraedd y dudalen golygu.
Rho glec ar y tab Template.
[Dewisol: dw i'n tueddu copïo a gludo'r testun o'r bocs 'na i mewn i olygydd testun BBEdit dw i'n ei ddefnyddio, ond i chi bobl Windows, mae Notepad yn iawn. Nid Word. Paid defnyddio Word. Mae'n ddrwg i ti.]
Ti ddim moyn ymyrryd â dim byd rhwng y tagiau <head> a </head>, oni bai dy fod di'n gwybod tipyn bach am CSS. Os dwyt ti ddim yn gwybod beth yw CSS, ti ddim moyn meso â fe.
Yn y prif rhan o'r côd, rhwng y tagiau <body> a </body>, cei di newid sawl peth.
Ffeindio rhywbeth sy'n edrych fel hyn, a newid y stwff dw i wedi duo i beth bynnag sy'n dy siwto di:
<p class="post-footer">
<em>posted by <$BlogItemAuthorNickname$> at <a href="<$BlogItemPermalinkUrl$>" title="permanent link"><$BlogItemDateTime$></a></em>
<MainOrArchivePage><BlogItemCommentsEnabled>
<a class="comment-link" href="<$BlogItemPermalinkURL$>#comments"><$BlogItemCommentCount$> comments</a>
</BlogItemCommentsEnabled></MainOrArchivePage> <$BlogItemControl$>
</p>
Wedyn, yr un peth yma:
<!-- Begin #comments -->
<ItemPage>
<div id="comments">
<BlogItemCommentsEnabled><a name="comments"></a>
<h4><$BlogItemCommentCount$> Comments:</h4>
<dl id="comments-block">
<BlogItemComments>
<dt class="comment-poster" id="c<$BlogCommentNumber$>"><a name="c<$BlogCommentNumber$>"></a>
<$BlogCommentAuthor$> said... cei di newid y drefn yma hefyd
</dt>
<dd class="comment-body">
A'r pwt bach yma:
<p class="comment-timestamp">
<a href="<$BlogURL$>"><< Home</a>
</p>
Nesa, rhai o'r pethau yn y sidebar (paid poeni am y proffeil am nawr). Mae sawl adran yn y sidebar, ac maen nhw i gyd yn gweithio yn yr un ffordd. Wna i ddangos un, fel enghraifft.
<h2 class="sidebar-title">Previous Posts</h2>
Cei di newid y teitlau i gyd fan 'na.
Os wyt ti am ychwanegu Rhestr y Rhithfro, mae angen ychwanegu hyn rhywle yn y sidebar:
<h2 class="sidebar-title">Blogiau Cymraeg</h2>
<p>
<script language="JavaScript" src="http://morfablog.com/rhithfro/rhithfro.js"></script>
</p>
Does dim rhaid i ti gadw logo (Saesneg) Blogger, ond mae rhaid cadw linc yn ôl at hafanddalen Blogger (mae hyn yn rhan o'r cytundeb rhwng ti a Blogger). Os wyt ti am newid y botwm am linc testun, cei di newid hyn:
<p id="powered-by"><a href="http://www.blogger.com"><img src="http://buttons.blogger.com/bloggerbutton1.gif" alt="Powered by Blogger" /></a></p>
i hyn:
<p id="powered-by"><a href="http://www.blogger.com" title="Diolch i Blogger">Pwerir gan Blogger</a></p>
Reit, dyna'r cam cyntaf. Cadw y newidiadau, ail-gyhoeddu'r blog, a sieco'r fe (y botwm View Blog). Wyt ti wedi camsillafu "Postiwyd"? Neu yfe jyst fi sy'n wneud hynny?
Amser swper nawr. Mwy yn y man. Gofyn cwestiynau os nad yw rhywbeth yn glir.