Chwyldro!

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Selador » Mer 18 Awst 2004 11:35 am

Nadw, bedir gwahaniaeth?
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Selador » Mer 18 Awst 2004 11:36 am

Nadw, bedir gwahaniaeth?
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Gwilym » Llun 23 Awst 2004 8:40 pm

Yn gyntaf, ymddiheuriadau am gymryd mor hir yn ymateb. Credu fod yr edefyn wedi dod i ben o ni.

Selador a ddywedodd:
Gwilym a ddywedodd: Efallai y dylem ni wahardd ysgrifennu unrhywbeth ar bapur pan ddaw'r chwyldro, er mwyn sicrhau fod pobl yn canolbwyntio ar ddefnyddio eu synnwyr cyffredin yn lle cael eu camarwain i gredu fod ffurflenni a dogfennau diflas yn bwysig


Gwilym, ti'n honni ar un llaw mai pwrpas y chwyldro ydi gwneud Joe Bloggs yn fwy goleuedig fel bod pawb yn medru cymeryd rhan cyfrifol mewn Gwleidyddiaeth ac effeithio'r ffordd mae'r wlad yn cael ei rheoli, ac ar y llaw arall, tisho gwahardd ysgrifen, un o'r unig betha sy'n ein gwahanu oddi wrth yr anifeiliaid!


Tynnu coes o ni. Ac actiwali tydw i ddim yn gweld yr anifeiliaid yn gwneud llanast o'r byd 'ma. Na, ni sy'n peryglu bywyd ar hyn o bryd. Ac hefyd (jest achos fy mod i'n teimlo'n anifyr braidd) ni, yr hil ddynol, yw'r unig anifail sydd ddigon twp i feddwl fod nhw fwy clyfar na unrhywbeth arall sydd yn fyw ar y blaned 'ma. Safonnau dynol yw 'dealltwriaeth' a 'rhesymu', ydi hi'n deg defnyddio'r un safonnau wrth son am anifeiliaid eraill? Mae'n nhw'n byw tu hwnt i gyd-destun 'y meddwl modern'. Ond mae hwnna'n edefyn arall.

Selador a ddywedodd: elli di'm cal gwarad o'r problema ma i gyd drwy jest 'gael chwyldo.' Di petha'm mor syml a hynny.


Dwi'n deall hynny. Ond mae'n rhaid cychwyn rhywle. Be dwi'n i gredu ydi fod yr hen safbwyntiau gwleidyddol yn aneffeithiol y dyddiau yma. Mae carfannau gwleidyddol yn creu problemau yn lle eu datrus. Rhiad i ni roed yr unigolyn yng nghanol ac wrth wraidd y broses ddemocrataidd, nid idiolegau cyffredinol.

Selador a ddywedodd: Hefyd dwi'n anghytunno efo chdi ynglyn a newid agwedd y werin datws. Diom yn bosib, jest darllan y Sun neu gwylia 'Big Brother'.


Rwy'n anghytuno. Mae unrhyw un a'r potensial i ddeall ac i ymateb yn naturiol er y gwell. Ennyn pobl i ddeall ydi'r gwaith. Tydi'r byd ddim mor gymhleth a mae'r gwleidyddion a'r biwrocratiaid isio i ni gredu. Heb ffydd yn ein cyd-ddyn i newid be arall sy 'na ond gorfodi pobl i ddilyn trywydd tydan nhw ddim yn ei ddeall. Tydi hynna ddim yn swnio fel democratiaeth i mi.

Selador a ddywedodd: Gwraidd pob problem fodern yn y bôn, ydi cyfalafiaeth. Os tisho newid petha; Y Comiwnyddion Yng Nghymru


A tydi diffinio'r byd yn nhermau materol economaidd yn unig ddim yn helpu chwaith.
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Postiogan Selador » Llun 23 Awst 2004 9:07 pm

Gwilyn a ddywedodd:A tydi diffinio'r byd yn nhermau materol economaidd yn unig ddim yn helpu chwaith


Dwi'n cytunno. Ond felna mae hi. Cyfalafiaeth yw gwraidd pob problem fodern sy'n ein gwynebu (wel, bron...)
Dyma engreifftiau;
*Tlodi yn y trydydd byd.
Amhosib helpu pobol heb roi pres iddy nhw'n tydi? nodwedd y gred gyfalafol yw pob dyn drosto'i hyn. Ond dyw hyn ddim yn deg gan fod pawb ddim yn cael yr un cyfle yn y lle cynta.
*Niwed i'r amgylchedd
"Mae'n rhaid gwneud y nifer mwya o nwyddau, mewn cyn lleiad o amser a sy'n bosib, am y pris rhata. Wni, ffatris, lot o ffatris..."
*Ffraethdra y werin
Unwaith eto yr un meddylfryd. Sut i wneud y mwyaf o bres, bols i bob dim arall. Sensationalism ydi bob dim, dani'n cal yn pledru o bob cyfeiriad efo hysbysebion, sgandals twp, entertainment di-chwaeth.

Ma'r byd dani'n byw ynddo fel riw fath o hunllef wallgo, ac yn fy marn i yr unig ffordd i beidio mynd yn wallgo, yw ei anwybyddu yn llwyr. Sani'n byw mewn byd moesol a theg, ac y bysa'r byd yma'n cael ei ddisgrifio inni, dwin siwr y bysa ni'n dychryn mwy na fysa ni tra'n gwylio 'Scream 3'.
Darllen be sy gan y comiwnyddion i ddeud cyn eu dissmisio fel riw blaid 'Economaidd.'
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Gwilym » Maw 24 Awst 2004 3:14 pm

Sori am fy ymateb haerllug, ond roeddwn i reit grympi ddoe. Yep, mae hi'n amhosib anwybyddu fod y rhan fwyaf o'n problemau yn rai economaidd. Dwi hefyd yn credu fod yr ateb i'r problemau hyn yn nwylo'r unigolyn yn unig, fel ti a fi. Mae'r ateb yn fwy na pholisi economaidd arall, ac i ddweud y gwir mae o'n fwy na unrhyw lywodraeth.

Dwi'n trio anwybyddu faint fedraf hefyd ond pob nawr ac yn y man dwi'n cael cip olwg drwy gornel llygad ac mae hi'n hen fyd hyll allan yna ar hyn o bryd. Fedra'i ddim anwybyddu hyn am byth chwaith. Weithie dwi awydd gwneud rhywbeth. Mae breuddwydio am chwyldro yn un o'r pethe sydd yn cadw fi i fynd. Dwi wirioneddol yn gobeithio bydd pethe'n newid er y gwell. Mae 'na bethau ymarferol medrwn ni ei wneud i newid pethe, un ohonnyn nhw yw defnyddio'r sustem bresenol i roi pwysau ar y gyfundrefn wleidyddol. Ond efallai'r frwydr anoddach yw confinsio pobl fod hi'n bosib newid pethe'n y lle cyntaf. Wedyn rwy'n credu fe fydd y newid yn beth naturiol.

Mae'r fath o wleidyddiaeth rwy'n ei ddychmygu yn bosib, mae hi jest yn mynd i gymryd blynyddoedd o waith i'w roi at ei gilydd . . . a dwi dal heb orffen fy ngradd . . . dal heb dalu'r dyledion . . . dal heb ffindio cartref iawn . . . a.y.y.b. ond rhywddydd . . .
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Postiogan Meiji Tomimoto » Maw 24 Awst 2004 3:39 pm

ceribethlem a ddywedodd:
selador a ddywedodd:Wedi darllen Animal Farm diolch yn fawr. sylwa mai unigolion sy'n rheoli'r ffarm, a manwn foch.

Sylwa taw alegori oedd "Animal Farm" nid stori ddogfen!

Well gena fi'r ffilm :lol:
Sori. Be 'di barn pobl am newid pethau o'r tu fewn?
H.Y mynd yn gynghorydd neu wbath?
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan Gwilym » Mer 25 Awst 2004 11:00 am

Meiji Tomimoto a ddywedodd:Sori. Be 'di barn pobl am newid pethau o'r tu fewn?
H.Y mynd yn gynghorydd neu wbath?


Efallai mai dyma'r unig ffordd. Ond tydi hi ddim y fath o syniad sydd yn mynd i ysbrydoli cenhedlaeth o chwyldroadwyr nawr, nag ydi?

"Do you want to save the planet? Feed the starving millions? End illegal occupation? Stop supporting dictatorial regimes? Then join your local council."

Sori. Dwi 'di mynd o fod yn hollol bositif i fod yn sinig diflas. Camau bach a dry yn filltir a.y.y.b. Mae rhai o fy frindie wedi bod yn siarad am fod yn gynghorwyr er mwyn cael y cyngor lleol i roi chware teg i hyrwyddwyr gigiau lleol ac i geisio cael estyniad ar oriau agor. Yn y diwedd, dym'r unig ffordd o newid pethe'n heddychlon heb gael miliynnau o ddilynwyr fel Ghandi. Er na ddaru'r gorymdaith o filiwn a hanner y erbyn y rhyfel wneud llawer o wahaniaeth. Efalle y dylwn i ddechrau gwisgo hesian loin cloth . . .
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Postiogan Selador » Mer 25 Awst 2004 2:27 pm

ceribethlem a ddywedodd:
selador a ddywedodd:Wedi darllen Animal Farm diolch yn fawr. sylwa mai unigolion sy'n rheoli'r ffarm, a manwn foch.

Sylwa taw alegori oedd "Animal Farm" nid stori ddogfen!

Siarad mewn alegori oeddwn i hefyd, heblaw am y darn Moch, jest bod yn wyrion oeddwn i'n fana.

Pob lwc iti Gwilym uda i. Mae'n rhaid meddwl am syniad wneith uno pawb, cyrraedd rhyw nod neu amcan neu gilydd. Cofia y byddi di angan slogans 'Catchy', miloedd o bosters, yn ogystal a hysbyseb ar primetime tv! (joc)
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai