Pa air ydych yn defnyddio am ddadas?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pa air ydych yn defnyddio am ddadas?

Postiogan Lowri Fflur » Sul 29 Awst 2004 12:52 pm

Mae yna lwyth o eiriau gwahanol am y pethau melus blasus yma da chi'n rhoi yn ych ceg. Dada dwi'n defnyddio ers bod fi'n fach ond dwi'n defnyddio danteithion weithiau ers clywed ffrind yn coleg yn defnyddio y gair yma achos nath o daro fi pa mor neis mae'r gair yn swnio.

Beth mae pawb arall yn defnyddio a ble mae nhw'n dod?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 29 Awst 2004 4:24 pm

'Da das' neu llawer o'r amser 'peth da' fydda i'n eu galw nhw. Gas gen i pobl yn eu galw'n 'sweets'.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 29 Awst 2004 4:37 pm

losin
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Ramirez » Sul 29 Awst 2004 5:13 pm

minciag.

nage.

fferins.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Daffyd » Sul 29 Awst 2004 6:46 pm

Wast o bres.

Na joc, fferins.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Postiogan bartiddu » Sul 29 Awst 2004 9:03 pm

Hen fenyw fach Cydweli
Yn gwerthu losin du,
Yn rhifo deg am ddimai
Ond unarddeg i mi.
O dyna'r newydd gorau ddaeth i mi, i mi
O dyna'r newydd gorau ddaeth i mi, i mi
Yn rhifo deg am ddimai
Ond unarddeg i mi.

Cytgan (answyddogol!)
Ffw la la
Ffw la la
Ffw la la la ffwrch a ffa! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Rhodri Nwdls » Sul 29 Awst 2004 10:29 pm

da-da

minciad
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan sian » Llun 30 Awst 2004 8:08 am

'Swîts' ym Mhencader, "Fferis' yn Nhrefor.
Chlywais i erioed air arall ym Mhencader - ddim hyd yn oed gan hen bobl - na gan Mam-gu yn ardal Cei Newydd chwaith - mae'n siwr fod yno air Cymraeg rhyw dro - rhywun yn gwybod?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan bartiddu » Llun 30 Awst 2004 11:49 am

Neb wedi crybwyll Melysion eto?

Odi Fferins yn tarddu o'r Ffairiau 's lawer dydd? :)

Yr hen foi newy' crybwyll mai Cisus oedd e'n 'weud pan yn fychan, "dere cisun i fi", heb clywed y gair 'na amdanynt or blaen!
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Treforian » Llun 30 Awst 2004 12:20 pm

Fferis.
Oherwydd eu tebygrwydd anesboniadwy i aelodau'r tylwyth teg am wen i. :rolio:
Treforian
 

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron