Rhys Llwyd a ddywedodd:lowri larsen a ddywedodd:Dy broblem yw Rhys dy fod yn edrach lawr dy drwyn ac yn barnu rhiwyn sy' n edrach ar y byd drwy lygaid gwahanol i chdi dy hun yn lle dim ond anghytuno efo' person. Sori Rhys mae o angen cal i ddeud.
Dydy hynny ddim yn deg. Ydw dwi yn berson a barn gryf am bethau, barn gryf iawn. Os wyt ti'n gwbod dy fot ti'n iawn mi rwyt ti hefyd yn gwbod fod y person arall yn anghywir! Does geni ddim llawar o ffydd yn fy marn i os ydw i'n meddwl 'falle fod y person arall yn iawn'.
y broblem ydi, o bosib, nad wti'n deall nad oes 'iawn' ac 'anghywir' pan mae'n dod at farn. barn ydi barn, mae 'na gymaint o bobl yn troi trafodaethau yn ffrae am nad ydyn nhw'n gallu gwerthfawrogi fod rydd i bawb ei farn. mi alli di drafod efo rhwyun wti'n wirioneddol anghytuno efo nhw, yn gymharol synhwyrol, cyn bellad a bod y ddau berson yn parchu ei gilydd.
ta waeth, ma hyn yn mynd oddi ar y pwynt. carma. dwi'n dechra mynd yn anniddig iawn am y thingi carma 'ma. mae o'n teimlo'n dandin bod pobl yn cael fotio ar bobl erill. ...fatha pan oni'n sal o'r ysgol am dridia, a eshi'n ol ac mi oedd y gang i gyd 'di fotio bo nhw'm isho fi yn y gang ddim mwy. ffyc, it's y hard laiff.
siriysli ddo. oes 'na rwyun yn teimlo'r un fath?