Natsis, natsis, natsis, natsis!

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan GT » Llun 30 Awst 2004 7:20 pm

A dwinnau'n ncael fy hel i'r Faenol. Gobeithio na wnaiff fwrw wir Dduw!
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Realydd » Llun 30 Awst 2004 8:05 pm

Mae galw eraill yn ffasgwyr yn arf gan y bobl wleidyddol gywir hunan gyfiawn i rwystro trafodaethau dilys am rei grwpiau mewn cymdeithas.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Macsen » Llun 30 Awst 2004 9:37 pm

Realydd a ddywedodd:Mae galw eraill yn ffasgwyr yn arf gan y bobl wleidyddol gywir hunan gyfiawn i rwystro trafodaethau dilys am rei grwpiau mewn cymdeithas.


Dwi'n cytuno bod galw eraill yn ffasgwyr yn arf gan rai pobl wleidyddol gywir hunan cyfiawn i rwystro trafodaethau dilys am rai grwpiau mewn cymdeithas. Fyswn i'm yn galw neb yn ffasgwyr yn bersonol. Heblaw, wrth gwrs, pobl sydd yn ffasgwyr.

Dwi ddim yn gweld faint o bwynt sydd 'na i GT a fi barhau i ddadlau, am ein bod ni'n dau yn cytuno i ryw raddau. Mae'r Natsïaid yn cael ei gor-ddefnyddio mewn dadleuon, ond mae rhai amgylchiadau lle mae posib eu defnyddio i wneud pwynt dilys. Alle’n ni gytuno ar hynny?

Does gen i'm awydd dadl sy'n trafod y 'print man'.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Emrys Weil » Llun 30 Awst 2004 11:22 pm

Dwi wedi mwynhau darllen eich trafodaeth, gyfeillion.

Ond dylem gofio mai plaid wleidyddol Hitler yn yr Almaen oedd y Natsiaid, ac mai disgrifiad cyffredinol o wleidyddiaeth adain dde eithafol ydi Ffasgaeth. Dydi galw pobol yn Natsiaid ddim yn helpu mynd a dadl yn ei blaen, gan mai math o sarhad ydi o, ond mae dweud bod tueddiadau ffasgaidd yn perthyn i ryw ddadl neu'i gilydd yn gallu bod yn werthfawr ac yn adeiladol. Weithiau mae hynny'n dod a phobl at eu coed, weithiau mae'n gorfodi'r sawl sy'n gwneud yr honiad i gyfiawnhau drwy dystiolaeth yr hyn y mae'n ei honi. Rhywbeth sy'n rhy brin o lawer yng Nghymru heddiw, lle mae'n well gan bobol alw enwau a gwneud cyhuddiadau na chynnal dadl deg - heblaw ar y rhan yma o'r maes wrth gwrs.
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan GT » Llun 30 Awst 2004 11:43 pm

Waeth i ti heb a galw rhywun yn ffasgydd - galw enwau ydi o - a dyna'r oll - ffordd o gau trafodaeth. Os rwyt yn medru ennill dadl, dylet ei hennill ar ei grym ei hun - ddim trwy ymdebygu dy wrthwynebydd i rhyw eithafiaeth o ddrygioni.

'Dwi'n siwr bod Rhufeinwyr ers talwm yn ceisio difa dadleuon eu gilydd trwy eu cymharu a dadleuon rhywun o Wlad Groeg neu Carthage neu beth bynnag. Dyfais i'r diog - dim arall.

Gyda llaw, bellach does yna ddim ffeuan o wahaniaeth rhwng Natsiaeth a Ffasgaeth fel term i sarhau rhywun - yr un ydi'r llall.

A ti'n iawn Macsen bod amgylchiadau lle mae defnyddio'r term yn dderbyniol, ond mae'n debyg y byddem yn anghytuno ar yr union amgylchiadau hynny.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Chris Castle » Iau 02 Medi 2004 7:57 am

Dwi'n defnyddio'r gair Natsi pan dwi'n siarad am y BNP. Dyna fy marn amdanyn nhw. Dwi ddim yn gweld unrwpeth o'i le a hynny.

Dwi'n defnyddio'r FFasgaidd i ddisgrifio'r sawl sydd am dileu hawliau "pobl arall" oherwydd rhagdybiadau. Unwaith eto dyna fy marn.

er enghraifft dyw'r Toris ddim yn ffasgwyr (i gyd) ond mae cymal 28 (yn erbyn "hybu hoywder yn ysgolion" yn ffasgaidd. - dyna fy marn.

Credaf fy mod i'n defnyddio'r geiriau mewn modd safonol a chywir.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Garnet Bowen » Iau 02 Medi 2004 8:25 am

Dwi'n meddwl bod rhaid bod yn ofalus gyda'r ddau derm. Mae'r gair Natsi yn disgrifio plaid wleidyddol arbennig, ar adeg arbennig o hanes. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n deg defnyddio Natsi i ddisgrifio'r BNP, ond ella bod Neo-Natsi yn derm teg.

Mae'n rhaid i mi herio dy ddiffiniad di o ffasgydd hefyd, Chris. I mi, mae defnyddio trais yn rhan holl bwysig o ffasgaeth. Er mwyn i grwp fod yn ffasgaidd, mae hi'n rhaid iddyn nhw geisio gwthio eu syniadau ar eraill drwy ddefnyddio trais. Dwi ddim yn siwr os ydi hi byth yn deg galw'r blaid Doriaidd yn ffasgaidd.

Yn gyffredinol, mae'r edefyn yma yn codi pwynt pwysig iawn. Mae etifeddiaeth ffasgaeth yn faich trwm ar ysgwyddau gwleidyddiaeth fodern. Ond mae gormod o lawer ohonom ni yn barod i'w ddefnyddio i ddisgrifio ein gelynion gwleidyddol, heb ystyried be 'da ni'n ei ddeud. Problem ffasgaeth - yn wahanol i Natsiaeth, neu Gomiwnyddiaeth - yw ei fod yn ffonomenon hanesyddol sydd heb un gwraidd, na chwaith un diffiniad, safonol.

Edrychwch ar y dair llywodraeth ffasgaidd hanesyddol - Almaen Hitler, Eidal Mussolini, a Sbaen Franco - ac mi welwch chi dair gwlad gyda thri set o bolisiau gwahanol, sy'n cael eu hel at eu gilydd o dan y teitl "ffasgaidd". Ydi hyn yn deg? Mi oedd 'na wahaniaethau ideolegol mawr rhyngthyn nhw. Pam nad ydi Rwsia Sofietaidd yn haeddu'r label "ffasgaidd"? Neu Cambodia'r Khmer Rouge? Neu Zimbabwe Mugabe? Yr amhwysedd yma ynglyn a beth yn union ydi ffasgaeth sy'n ei gwneud hi'n rhy hawdd i ni fedru taflu'r gair o gwmpas fel insult gwleidyddol cyffredinol.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Chris Castle » Iau 02 Medi 2004 10:32 am

dwi'n derbyn beth mae Garnet yn dweud am drais ond bydddwn i'n dweud taw ffasgaidd oedd Staliniaeth, y Khmer Rouge ayyb. Gormes treisiol ar sail cenedl/ethnigrwydd.

Blew werth ei hollti yw e wedi'r cwbl.

-nest ti anghofio Chile dan Pinochet a sawl putsch militaraidd arall hefyd Garnet. Chawson nhw ddim eu galw yn ffasgaidd am oedd cefnogaeth uniongyrchol yr UDA ganddyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan GT » Iau 02 Medi 2004 2:46 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae'r gair Natsi yn disgrifio plaid wleidyddol arbennig, ar adeg arbennig o hanes. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n deg defnyddio Natsi i ddisgrifio'r BNP, ond ella bod Neo-Natsi yn derm teg.



Yn union Garnet. Nid yw disgrifio'r BNP fel Natsis ddim mymryn cywirach nag ydi disgrifio Gweriniaethwyr Americanaidd, Gaullists neu aelodau o Fianna Fail fel Toriaid. A dweud y gwir mae'n llai cywir.


Garnet Bowen a ddywedodd:Edrychwch ar y dair llywodraeth ffasgaidd hanesyddol - Almaen Hitler, Eidal Mussolini, a Sbaen Franco - ac mi welwch chi dair gwlad gyda thri set o bolisiau gwahanol, sy'n cael eu hel at eu gilydd o dan y teitl "ffasgaidd". Ydi hyn yn deg?


Byddwn wedi tybio bod mwy o berthynas rhwng y tair plaid yma na sydd rhwng y BNP a'r Natsis. 'Roeddynt yn bodoli yn yr un cyfnod o amser, yn dylanwadu ar ei gilydd ac yn helpu ei gilydd.

Chris Castle a ddywedodd:dwi'n derbyn beth mae Garnet yn dweud am drais ond bydddwn i'n dweud taw ffasgaidd oedd Staliniaeth, y Khmer Rouge ayyb. Gormes treisiol ar sail cenedl/ethnigrwydd.


Garnet sy'n iawn. Os wyt ti yn ymestyn y term ffasgaidd i pob cyfeiriad yna mae'n colli ei werth fel term ym mhob ystyr - ond fel term o sarhad.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Iau 02 Medi 2004 2:59 pm

GT a ddywedodd:Garnet sy'n iawn. Os wyt ti yn ymestyn y term ffasgaidd i pob cyfeiriad yna mae'n colli ei werth fel term ym mhob ystyr - ond fel term o sarhad.


Dwi ddim yn cefnogi ei ymestyn i bob cyfeiriad, ond cyn belled a bod gan rhywyn werthoedd penodol mewn golwg, mae posib defnyddio'r term ffasgaidd i ddisgrifio llywodraethau heblaw am ra Hitler/Mussolini/Franco. Mae posib cynnwys Stalin, Pol Pot, Pinochet, Hussein, Mugabe, Suharto a sawl un arall, cyn belled a bod rhywun yn diffinio ystyr ffasgaeth. Be sydd yn anghywir ydi dechrau galw llywodraethau etholedig, democrataidd-ryddfrydol sydd yn digwydd arddel polisiau yr ydych chi'n anghytuno a nhw yn "ffasgwyr". Beth bynnag ydi George Bush, tydi o ddim yn "ffasgydd".
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron