GT a ddywedodd:Fyddai'r hen Stalin ddim yn cytuno a ti ei fod yn ffasgydd. Efallai mai'r unig beth a wnaeth oedd o werth parhaol oedd gorchfygu ffasgaeth yn Ewrop.
Garnet Bowen a ddywedodd:Mi nath o danseilio'r Rhyfel Cartref yn Sbaen
GT a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Mi nath o danseilio'r Rhyfel Cartref yn Sbaen
Byddai rhywun sydd efo diddordeb yn Orwell fel sydd gen ti yn dweud hyn. Mae'n wir wrth gwrs i Stalin gefnogi'r Comiwnyddion ar draul yr elfennau Chwith eraill yn y rhyfel cartref (a thanseilio'r rheini). Ond o leiaf roedd o yn cefnogi'r Weriniaeth, sy'n fwy nag y gellir dweud am lawer.
GT a ddywedodd:Mae tebygrwydd rhwng llywodraethau unbeniaethol cyn RhB2 wrth gwrs, cred mewn grym llywodraethol llwyr, diddordeb mewn materion milwrol, diffyg goddefgarwch at bobl oedd yn eu gwrthwynebu ac ati.
Mae'n debyg gen i bod gwahaniaethau hefyd - un o blaid busnes, y llall yn erbyn, un efo ideoleg 'genedlaetholgar' y llall efo ideoleg wedi ei seilio ar ar 'gyfartaledd cymdeithasol', un yn edrych ymlaen, y llall yn edrych yn ol.
Garnet Bowen a ddywedodd:Nid dim ond ar draul yr elfennau eraill. Mae hi'n deg dweud fod rhai o'r comiwnyddion yn Sbaen wedi treulio cymaint o amser yn ymladd yn erbyn anarchwyr, sosialwyr, rhyddfrydwyr etc. nac y gwnaetho nhw yn ymladd milwyr Franco. A digon tila oedd yr help a yrrwyd gan Stalin - lot o hen ynnau wedi eu rhydu, bwledi nad oedd yn ffitio'r gynnau hynny etc. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg deud mai bwriad Stalin yn Sbaen oedd tanseilio mudiadau eraill a allai herio grym yr Undeb Sofietaidd ar y Comintern a mudiadau chwyldroadol asgell-chwith eraill.
Garnet Bowen a ddywedodd:Ydi'r gwahaniaethau yma yn rhai teg? Mi oedd 'na elfen gryf o genedlaetholdeb yn perthyn i Staliniaeth, a tydw i ddim yn siwr be ti'n ei feddwl gyda "edrych yn ol" ac "edrych ymlaen". Un o elfennau cynhenid ffasgeth ydi obsesiwn gyda'r dyfodol, neu "futurism".
GT a ddywedodd:'Rwyt ti, yn ddigon teg, wedi tynnu sylw at debygrwydd rhwng ffasgaeth a chomiwnyddiaeth. Serch hynny byddwn yn dadlau bod dweud bod Comiwnyddiaeth yn ffurf ar ffasgaeth yn gwthio pethau yn rhy bell, ac yn ddefnydd anghysact o iaith. Wedi'r cwbl roedd pymtheg blynedd go dda o'r ganrif diwethaf yn cael eu nodweddu gan gystadleuaeth rhwng Ffasgaeth a Chomiwnyddiaeth. Mae ceisio ymdebygu'r ddau i'r graddau yr wyt ti'n gwneud yn baeddu'r dyfroedd a dweud y lleiaf.
Garnet Bowen a ddywedodd:Nid dadlau dros debygrwydd 'comiwnyddiaeth' a ffasgaeth ydw i. Dadlau ydw i fod 'na elfennau ffasgaidd cryf i lywodraeth Stalin. Dwn i ddim os ydi hi'n deg trafod Staliniaeth fel math o gomiwnyddiaeth, i ddeud y gwir.
Garnet Bowen a ddywedodd:GT a ddywedodd:'Rwyt ti, yn ddigon teg, wedi tynnu sylw at debygrwydd rhwng ffasgaeth a chomiwnyddiaeth. Serch hynny byddwn yn dadlau bod dweud bod Comiwnyddiaeth yn ffurf ar ffasgaeth yn gwthio pethau yn rhy bell, ac yn ddefnydd anghysact o iaith. Wedi'r cwbl roedd pymtheg blynedd go dda o'r ganrif diwethaf yn cael eu nodweddu gan gystadleuaeth rhwng Ffasgaeth a Chomiwnyddiaeth. Mae ceisio ymdebygu'r ddau i'r graddau yr wyt ti'n gwneud yn baeddu'r dyfroedd a dweud y lleiaf.
Nid dadlau dros debygrwydd 'comiwnyddiaeth' a ffasgaeth ydw i. Dadlau ydw i fod 'na elfennau ffasgaidd cryf i lywodraeth Stalin. Dwn i ddim os ydi hi'n deg trafod Staliniaeth fel math o gomiwnyddiaeth, i ddeud y gwir.
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae posib cynnwys Stalin, Pol Pot, Pinochet, Hussein, Mugabe, Suharto a sawl un arall, cyn belled a bod rhywun yn diffinio ystyr ffasgaeth
Garnet Bowen a ddywedodd:GT a ddywedodd:Fyddai'r hen Stalin ddim yn cytuno a ti ei fod yn ffasgydd. Efallai mai'r unig beth a wnaeth oedd o werth parhaol oedd gorchfygu ffasgaeth yn Ewrop.
Roedd "ffasgydd" yn cael ei ddefnyddio yn Rwsia Sofietaidd fel term cyffredinol ar gyfer gelynion y wladwriaeth ormesol - engrhaifft wych o doublespeak. Dwi'n meddwl fod reputation Stalin fel gwrth-ffasgydd wedi ei chwyddo yn aruthrol. Mi nath o danseilio'r Rhyfel Cartref yn Sbaen, cynllwynio efo Hitler i oresgyn Gwlad Pwyl, a tasa fo ddim wedi marw ym '53, ella bysa'r Iddewon wedi gwynebu ail genocide o fewn 10 mlynedd. Efallai fod milwyr y Fyddin Goch wedi gwneud cyfraniad allweddol i'r ail ryfel byd, ond dwi ddim yn meddwl fod Stalin yn wrth-ffasgydd da iawn.
Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 41 gwestai