Ie, ac o'n i eisiau rhoi cyfeiriad Cymraeg swyddfa yn "Cardiff Gate Business Park". Fe edryches i yn Google ac roedd "Parc Busnes Porth Caerdydd" yn dod lan yno ond, o holi'r Swyddfa Bost, roedden nhw'n dweud nad oedd sicrwydd y byddai'r post yn cyrraedd gan nad oedd yn gyfeiriad swyddogol ganddyn nhw.
Fi'n credu mai'r cynghorau sir sy'n rhoi gwybod i'r Post pa strydoedd ac ati y mae ganddyn nhw enwau Cymraeg ar eu cyfer ac wedyn bod cwmnïau a chyfleustodau (utilities) yn gorfod cadw at y rheiny e.e. chaiff eich cwmni trydan ddim ysgrifennu atoch yn Stryd Siôr os nad yw hynny yng nghronfa ddata'r Post.