Cymedrolwr: Rhys
Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Newydd drio cofrestru ar gyfer sgwarnog.com. Wedi defnyddio'r system paypal. Siomedig iawn oedd darllen y canlynol: "Ymddiheuriadau-sgwarnog.com yn cael ei drwsio..." Wel bois bach, tydi hyn ddim digon da ar gyfer cenedl hunanhyderus ac uchelgeisiol.Rhwystredig iawn... Yndw, dwi yn bod yn ddi-flewyn ar dafod... Ffycin c'mon-pa mor uchelgeisiol ydi'r byd Cymraeg ar y we fyd eang!? Busnes ydi busnes. Gwasanaeth i gwsmeriaid ydi gwasanaeth i gwsmeriaid. Tri chynnig i Gymro? Na-malu cachu ydi hyn a dim byd arall. Gwasanaeth gwych y tro cynta- dyna mae pobl sydd yn talu am rhywbeth yn ei haeddu!
Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Cwestiwn- Faint o bobl sydd yn defnyddio sgwarnog.com bellach? Wyt ti'n hapus gyda'r ffigwr presennol? "Nid da lle gellir gwell?!" Yli gyfaill, mae'r we fyd eang yn gallu bod yn wych weithiau ond hefyd yn ddiawledig o rwystredig. Os tydi cwsmeriaid fel fi ddim yn mynd i gael eu plesio y tro cynta yna maent yn mynd i chwilio am gynnig gwell rhywle arall! A finna yn meddwl bod y rhod yn troi....
Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Gyda phob parch i ti, Hedd Gwynfor, mae dy ymagweddiad di yn enghraifft wych o beidio bod digon uchelgeisiol. 100% Perffaith! Nid yw unrhyw safon neu lefel is na hyn yn ddigon da. Yndw, dwisho cefnogi sgwarnog.com, ond dim os dwi yn mynd i gael fy siomi yn achlysurol... Neno'r Tad- mae Cymru a'r iaith Gymraeg yn haeddu gwell. Ydi hyn yn anheg? Wel- dwi'n cael fy atgoffa o'r gymhariaeth ganlynol: Golwg v The Economist, Spiegel, Stern neu The Spectator. Annheg? Iawn, mae'r cylchrediad llawer iawn uwch, mwy o bres, cyfloga uwch ac yn y blaen. Er hynny-yn y pendraw- safon yw safon!
Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:"OS YW'R GYMRAEG I FYW, RHAID I BOPETH (GAN GYNNWYS SAFON) NEWID"
Ydi hyn yn ddigon radical?!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai