Hawliau anifeiliaid

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cwlcymro » Llun 13 Medi 2004 7:56 pm

Yn union. Ti'n amddiffyn anifeiliaid er mwyn amddiffyn dy warineb dy hun. Nid am bod ganddynt hawl o unrhyw fath yn y byd.

Na, ti'n amddiffyn anifeiliaid am ein bod ni'n gyfrifol drosty nhw, dim i wneud i ni deimlo'n dda. Mae'n anodd rhoi "hawliau" fel y gelwir achos ma syniadaeth pobl ydi hawliau, mi fedri di restru hawliau dynol er engraifft, elli di ddim rhestru hawliau anifal, yr un fath na elli di restru hawliau plentyn gan ei rhiant. Cyfrfioldeb ydio.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan GT » Llun 13 Medi 2004 8:36 pm

Pwy sydd yn gofyn i mi dderbyn y gyfrifoldeb yma? Ydw i'n gyfrifol am goed a blodau hefyd? Gallaf weld ei bod yn deg i mi gymryd cyfrifoldeb tros bobl eraill - ond pam sy'n rhaid i mi fod yn gyfrifol am amddiffyn llygod a phryfed lludw? A ddyliwn i amddiffyn anifeiliaid oddi wrth eu gilydd?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 13 Medi 2004 8:49 pm

Dw i'n anghytuno â'r ddau ohonoch chi fama; nid ydi hi'n gyfrifoldeb arnom ni (er ein bod ni'n gyfrifol amdanynt, fel y ras mwyaf esblygedig, ond fysan ni'm yn gorfod bod tasan ni'm isho), nag ychwaith yn union i wneud ni deimlo'n well. Mae'n hytrach yn fater syml o egwyddor a gwneud yr hyn sydd yn iawn. Mi fedrwn ni edrych ar ôl anifeiliaid, felly does dim rheswm inni beidio.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan GT » Llun 13 Medi 2004 8:57 pm

Wel, rydym yn eu bwytau, eu troi yn gotiau neu esgidiau, yn arbrofi efo nhw yn eu twchu nhw i wneud foie gras.

'Dwi'n rhyw gytuno efo dy bwynt bod y ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn rhywbeth rydym yn ei wneud am ein bod ni yn gwneud egwyddor o'r peth (ac mae egwyddorion pob cymdeithas yn gwahanol yn hyn o beth). 'Dydi hyn ddim yr un peth a dweud 'Mae gan anifeiliaid hawl a, b, c'.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Llun 13 Medi 2004 10:40 pm

Pwy sydd yn gofyn i mi dderbyn y gyfrifoldeb yma?

Ma na ddau fath o gyfrifoldeb. Y math amlyca ydi cyfrifoldeb ti yn ei dderbyn. Fel doctor yn edrych ar ol claf, prifathro dros ei ysgol, berson sydd yn edrych ar ol perthynas anabal neu blentyn ar ol ei anifal anwes (ac i atab rhesymeg Garnet mewn edefyn arall, dyna pam ma na gyfraith i amddiffyn anifeiliaid anwes, ti'n derbyn cyfrifoldeb drosty nhw)

Ma na gyfrifoldeb arall, un nad yw pobl yn 'volunteerio' i'w gymeryd. Y math amlyca ydi rhiant a plentyn. Does gan y rhiant ddim dewis, mae'n rhaid iddy nhw fod yn gyfrifol. Yn Ffrainc mae pob person yn gyfrifol (yn ol y gyfraith) am helpu allan mewn damwain.

Ydw i'n gyfrifol am goed a blodau hefyd? Gallaf weld ei bod yn deg i mi gymryd cyfrifoldeb tros bobl eraill - ond pam sy'n rhaid i mi fod yn gyfrifol am amddiffyn llygod a phryfed lludw? A ddyliwn i amddiffyn anifeiliaid oddi wrth eu gilydd?


Dim "amddiffyn" yw'r gair cywir yn y ddadl yma. Dwi wedi ei ddefnyddio fo ar gangymeriad achos nag oeddwn i'n gallu meddwl am air gwell. Does neb yn gofyn i chdi amddiffyn anifeiliaid, does gan neb ddyletswydd i amddiffyn neb, boed anifal neu berson, onibai fod o wedi derbyn y dyletswydd yno drwy swydd (e.e. plismon) Does na ddim dyletswydd arna i i amddiffyn merch sy'n cael ei taro gan ei gwr. Does na ddim dyletswydd arna i i achub bachgen sydd yn cael ei dreisio gan ei athro.
Be sy dan sylw ydi'r cyfrifoldeb o beidio bod yn greulon dy hun.

Mi fysa'n neis os fysa pobl yn gallu dibynnu ar ei egwyddorion i beidio bod yn greulon i anifeiliaid. I'r rhan fwya ohonom ni, mae'n egwyddorion yn ddigon. Ond gan fod yna leiafrif sydd ddim yn poeni am ei hegwyddorion mae angen y gyfraith i sicrhau lles anifeiliaid. Peth dynol ydi cyfraith, a ma'r term "hawliau" yn derm gyfreithiol. Mi ddylsa ni allu edrych ar ol gweddill y blaned ar ein hegwyddorion, ond gan fod rhai yn methu gwneud hynny, mae angen cyfraith a "hawliau" i'w sicrhau.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai

cron