gan Mihangel Macintosh » Sul 03 Tach 2002 10:27 am
Nes i lwyddo i lysgo fy hyn i ffwrdd o'r cyfrifiadur 'ma neithiwr a mynd lawr y sinema leol i weld y ffilm. Ma'r stori a'r actio yn dda iawn, a ma'r gologfeydd cyntaf o Lundain yn hollol wag yn anhygoel. Yn ôl y son, fe'i ffilmiwyd nhw am 6 yn y bore gan ofyn yn boleit i bobl beidio a mynd i lawr strydoedd! Yn wahanol i Zombies mewn ffilmiau eriall, mae'n bosib lladd y rhai yn 28 Days Later, er fod nhw yn symyd yn gyflymach. Nes i actually neidio allan o'n sedd cwpwl o weithiau! Ond fel 'ma Di-Angen yn dweud, er taw ffilm Zombie ydy e yn y bon, ma na blot da iddo fe sy'n datblygu'r ffilm i fod yn fwy o Thriller na jyst ffilm arswyd. Serch hynnu ma na ddigonedd o ologfeydd digon grisly ond na'i ddim rhoi gormod o'r stori i ffwrdd rhag sbwlio fe i unrhyw un sydd heb weld e eto, ond dwi'n argymell i chi fynd i'w weld e os da chi'n hoffi'r math 'ma o beth.
Yr unig gwyn sydd gennai ydy acen y ferch ifanc yn y ffilm - actio da ganddi hi ond rhyw gymysgedd o acenion rhyfedd oedd ddim cweit yn confinsing iawn. Hefyd sylwes i ar lot fawr iawn o Product placement yn 28 Days Later - brand o wisgi, nifer fawr o ddiodydd ysgafn, siocledi a hyd yn oed archfarchnad, yn cael sylw amlwg iawn! Serch hynnu, gan nad oes gan y diwydiant ffilmiau yn Lloegr unrhyw gyllid tebyg i be sydd gan Hollywood, mi allai ddeall pam wnaethpwyd hyn. Well na defnyddio arian Loteri siawns.
Ffilm arswyd dda sydd hefyd yn eithaf doniol ar adegau - 9/10