Dinas, Cefn Gwlad neu Tref

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dinas, Cefn Gwlad neu Tref

Postiogan Geraint » Mer 22 Medi 2004 2:47 pm

Dwi di byw yng nghefn gwlad, trefi a dinaseodd. Yn aml dwi'n myfyrio am pa un sy well gennai fyw ynddi, a lle dwi isho byw yn y dyfodol.

Mae'r wlad mor dawel a phrydferth, dwi'n hapus yno am dipyn ac yn teimlo fel person newydd. Gall fod yn unig, ac ar ol rhaid dyddiau dwi'n dechrau ysu am cyffro y dre/ddinas.

Mae'r ddinas llawn o rhyfeddodau, a pobl newydd i ddod i nabod, a digwyddiadau diwylliannol, chwaraeon, gigs ayb ayb. Ond eto mae'n deilmad annifyr fod mor bell o natur, o fynyddoedd, o'r mor ac o dawelwch. Ac hefyd, dim ond canran fach o'ch ffrinidau da chi'n gweld yn rheolaidd, gan ddiwedd fyny styc yn ty am lawer o'r amser.

Mae y dref fel y canol rhwng y ddau, yn digon agos i'r wlad, ond efo digon ym mynd mlaen yn y dref. Eto, hawdd yw diflasu gyda gwneud yr un pethua bob wythnos, ond eto haws yw teimlo fel rhan o gymuned, a gweld yr un pobl yn aml.

Ma gennai ddiddordeb mawr glywed meddyliau a phrofiadau pobl eraill ar y mater.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Re: Dinas, Cefn Gwlad neu Tref

Postiogan Sleepflower » Mer 22 Medi 2004 3:07 pm

Geraint a ddywedodd:Mae y dref fel y canol rhwng y ddau, yn digon agos i'r wlad, ond efo digon ym mynd mlaen yn y dref.


Mae hyn yn bwynt ddiddorol. Mae'r dref yn digon agos i'r wlad mewn sawl achos, ond mae'n siwr fod bywyd tipyn fwy diflas mewn 'leafy suburb' o ddinas, ymhell o brydferthwch wlad, ac ymhell o gyffro'r ddinas.

Mae Aber yn biwt am y rhesymau canlynol:

1. Mae'n digon fach fel bod ysbryd cymunedol yma.

2. Mae'n digon fawr fel bod wastad rhywbeth newydd mlaen.

3. Mae yng nghanol Ceredigion, sef (o ddifri) yr ardal fwyaf prydferth fi erioed wedi bod ynddo.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mali » Mer 22 Medi 2004 5:11 pm

Helo Geraint,
Heb fyw mewn dinas fawr nac yn y wlad erioed , ond mi fedrai ddeud o sicrwydd mai mewn tref dwi'n hoffi byw. Dwi'n meddwl fod tua dwy noson yn y ddinas fawr yn ddigon i mi - swn a phrysurdeb y ddinas ayb, ac mae aros allan yn y wlad yn rhy ddistaw......
O ddewis felly, tref fechan yn agos i'r mor a lle fedrai weld y mynyddoedd. 8)
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dwlwen » Iau 23 Medi 2004 10:15 am

Fi'n dod o'r wlad - Wy'n dwli ar fynd 'adre' i Gwm Gwendraeth. Wy 'di treulo blynyddoedd yn crwydro drwy'r caeau yno, yn dod o hyd i lwybrau bach does braidd neb yn 'u defnyddio, yn dod i nabod y tir a'r gymuned sy'n byw yno. OND, dwy ddim yn teimlo fel rhan o'r gymuned yna... Ma nhw'n bobl sy'n annwyl iawn i mi, ond gymaint ag wyf fi'n caru'r lle a'r pobl, allai ddim byw yn ddedwydd yno nawr. A i fod yn onest, o'n i methu 'neud rhyw lawer yno erioed - 'nes i deithio o 'na i fynd i'r Ysgol, a'n bell o na i fynd i'r Coleg, a nawr rwy wedi gadael er mwyn gweithio yng Nghaerdydd.

Yma, fi'n teimlo fel rhan o gymuned - falle fod hi'n gymuned eitha bach, ond mae wedi'i greu o bobl sy'r un oed a fi, a sydd â diddordebau a profiadau tebyg - a ma actiwli stwff i 'neud 'ma! ...Hyd yn oed os yw'r cyfan yn dechrau'nrysu i, allai ddianc a dod nôl yn eitha hawdd!

O rhan perthyn - fyddai byth mor gartrefol yn y ddinas ag wyf fi nôl adre, ond wedi gweud hynny, mae 'na gyfyngiad ar yr hyn sydd i'w ddysgu adre - rhyw deimlad mod i wedi gweld y cyfan, ac felly dyna pan rwy mor gyffyrddus â'r lle... Dwy ddim eisiau 'setlo' ar bethau cyfarwydd (eto) felly 'nai gadw mlaen i golli'n ffordd yn y ddinas am y tro, er mae'n debyg fydd hi byth yn gartref i mi.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Resbiradaeth Jonas » Sad 16 Hyd 2004 10:04 pm

be am fyw mewn pentref - rwbbath newydd i chdi, neu bentrefan neu fetropolis.............yn bersonnol dwin byw mewn pentref a mae on ok, (dwin byw ym mharadwys tin gweld), ond dwi yn teimlo braidd yn rhwystriedig weithia, medylia mae fy rufyr ailynd i ta 40 milltir i ffwrdd (am drasig)
RESBIRADAETH JONAS
Rhithffurf defnyddiwr
Resbiradaeth Jonas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Iau 16 Medi 2004 6:23 pm
Lleoliad: Tyddyn y Gaseg 1870

Postiogan Blewyn » Sul 17 Hyd 2004 7:02 am

Wedi byw yn bob un o'r tri dewis, a mae'n rhaid i mi ddweud nd yw yn bosib penderfynu ar 'reol' am ba un sydd orau. Dwi'n ffendio fy mod yn datblygu cysylltiad emosiynol efo rhai llefydd, a ddim rhai eraill, ac yn aml ychydig sydd gan y cysylltiad i wneud efo manteision ymarferol y lle. Y lle brafia dwi wedi byw hyd yn hyn yw tref bach yn Suffolk - pobl clen, tywydd da, trefi mawr yn agos, gwasanaethau da ond poblogaeth isel.

Mi ges gyfweliad am waith yn Aberystwyth yn 1992 a dwi wedi dyfaru erioed na gefais y job - dwi meddwl bysa Aber yn gret o le i fyw.

Blewyn
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron