o'r blog a ddywedodd:Dwi erioed di gweld pwynt blogs a be yn union sydd angen ei sgwennu yma.
Beth am hyn, unwaith ti wedi gweithio mas beth yw'r pwynt, a pam ti'n wneud, wna i ychwanegu'r blog i'r rhestr.
Yn fwy cyffredinol, gan fod y rhestr wedi tyfu cymaint, a nes i ni gael rhyw drefniant newydd (sbwriel?), dw i am beidio ychwanegu blogiau newydd i'r rhestr nes iddyn fodoli am wythnos neu ddwy, ac wedi postio tipyn bach mwy na'r neges agoriadol "bydd hyn yn rybish, ond mae pawb arall yn wneud, felly dyma fy un fi". i bobl sy ddim yn defnyddio rhywbeth fel <a href="http://bloglines.com/myblogs">Bloglines</a> i gadw i fyny gyda'r blogs, dydy rhestr o wefannau sy heb cael eu diweddaru am ddiwrnodau, wythnosau ac hyd yn oed misoedd ddim lot o iws, ac yn fwy tebyg i roi'r argraff bod y hen flogiau yma yn wastraff o amser.
Chi pobl sydd <i>yn</i> darllen blogs, pa mor aml dych chi'n disgwyl deunydd newydd ar y blogs ti'n mynychu. Yn bersonol, os nag oes stwff newydd bob yn ail ddydd, ac yn sicr ar ol wythnos, dw i'n cymryd bod y blogiwr wedi rhoi'r ffidl yn y to, o leia dros dro, ac mae'r bookmark yn symud o'r ffeil "dyddiol" i'r un "wythnosol".
Beth mae pobl eraill yn wneud?