Ar ol cael laff a hanner ddwy flynedd yn ol draw yn Nulyn yn gwylio Cymru (er gwaetha'r sgor... drychwch ar y pac 'na! ), mae awydd 'da fi i fynd i Baris i weld y bois yn cael yr un fath o grasfa 'to.
Oes syniad gan unrhyw un ynglyn â'r ffordd rataf o fynd o Gaerdydd i Baris? Mae flights ar gael am gant a hanner, ond byddai'n rhaid mynd drwy Amsterdam, sy'n dipyn o strach. Fferi wedyn y TGV? Eurostar? Unrhyw brofiad gan unrhyw un arall o'r daith?