Rhys Llwyd a ddywedodd:dwi wedi bod yn meddwl yn ddiweddar am siarad gyda pobl yn y Gymdeithas yn Aberystwyth ac UMCA ynglyn a chydweithio i feddwl be' i'w neud ynglyn a sefyllfa'r Gymraeg yn y coleg.
Bydd hyn YN diwgydd flwyddyn nesa. garantid. Llywydd UMCA fydd Cats Daf (aelod o sendd y Gymdeithas) a bydda i yn dechra yn y flwyddyn gynta a dwin bwriadu gneud lot o ffys. Yn ogystal ma aelodau o Cymuned fel Osian Rhys ar flaen y gad hefyd gan mae fe fydd swyddog y Gymraeg UMCA bl nesa.
Bydd chwyldro yn aber!
hei!
edefyn diddorol iawn! (wedi blino gormod i sgwennu rhywbeth call; gyda llaw os nes i weld unrhywun a mwydro nhw yn pesda roc, gai ymddiheuro yn swyddogol). dwi'n cytuno gyda lot o bethe sydd newydd gael eu dweud gan meinir, hedd a rhys. jyst for the record, dwi'n aelod o CYI hefyd, a dwi'n cytuno'n llwyr efo pwrpas gwreiddiol y thread yma, gweld mwy o drafodaeth (os nad cydweithio) rhwng CYI a cymuned. hyd yn oed heb hynny, allai ddim ond gweld fod e'n beth da bod y ddau fudiad yn bodoli beth bynnag.
falle bod hi'n anodd cal cydweithio clos rhwng y ddau fudiad ar y top (falle bydde hynny ddim yn beth da beth bynnag), ond ynbydde'n beth da sefydlu rhyw fath o fforwm neu rwbeth gyda grwpiau eraill yn rhan ohono, grwpiau'r iaith gymraeg, fel RHAG a CYD, UCAC, a falle hydnoed Menter Iaith, jyst fod cadeiryddion/penaethiaid/bebynnag y grwpie yn cwrdd yn eitha cyson i drafod syniade a safbwyntie a.y.b. ?
bydd rhys, fi'n edrych ymlaen at flwyddyn nesa; fi'n teimlo bo fi di gwastraffu 2 flynedd yn aber ddim yn neud dim byd lot am broblem "gwarth aber" (anoddach i fi sylwi ar y peth gan mai cymraeg dwi'n studio. oce, esgus gwael.), ond blwyddyn nesa, ma ishe rhoi hel iddyn nhw! ma pawb o'n plaid ni heblaw awdurdodau'r brifysgol -- un targed, hwre!
a dwi yn cytuno efo meinir. mi fydde'n dda cael rhywbeth mwy (mudiad, fel yn 'movement') yn protestio yn erbyn 'gwarth aber', UMCA wrth reswm, ond CYI a Cymuned hefyd a pobl fel RHAG ac UCAC, ar lefelau gwahanol neu be bynnag. dim pawb yn sefyll tu allan yr hen goleg efo placards (er bod angen hynny!), ond bod
deialog ganddon ni (wps, un o'r geiriau sydd "mewn" ar hyn o bryd?).
dwi'n cytuno'n llwyr am y peth hanes cymru (pam oes rhaid i fi gytuno efo pawb o hyd?) -- dwi di bod yn meddwl lot am y peth. dyn ni gyd yn gwbod mor bwerus ma addysg yn gallu bod, a mi ddyle pob plentyn gael dysgu am hanes ei wlad. mae diffyg hanes cymru yn disgres, mae angen sgwennu at jen defisyn am hynny i newid y cwricwlwm neu be bynnag yw e; mae'r rhan fwya o'n ffrindie i'n gwbod pwy odd gwragedd harri viii a sut fuodd pob un farw, ond sneb yn gwbod am y deddfau uno gyflwynodd e (y bradwr). does neb yn gwbod am hywel dda, gruffydd jones llanddowror a tomos charles, o.m.edwards etc. - stiwdents neuadd pantycelyn! pwy obaith sydd i weddill plant cymru?
beth bynnag, dwi ar y ffordd i'r gwely ers tua awr. sori am sgwennu cymaint; anodd bod yn gryno..