arwyn a ddywedodd:yndi, dwi'n meddwl bod bandie sy'n gweithio'n galed yn haeddu cael gig o flaen rhywun hollol newydd fel Bob.
Ahem.
Da ni yn cael pracdis bob wicend er bod ni gyd yn byw yn uffernnol o bell o'n gilydd, un ym mhrifysgol aber, ru'n ohona ni yn dreifio (eto), gwaith coleg/ysgol i'w wneud, da ni'n hasslo pawb, gnweud yn ymdrechion i borderlinio sbamio maes-e (joc nic, joc), gyna ni'n bywydau cymdeithasol i feddwl am ac hefyd y ffaith fod gyna ni fywyd tu-allan i'r band. Gofynna di i fandiau eraill yr SRG os ma nhw yn rhoi gymaint mewn i fod yn fand a ni. Ddim bod bandiau'r SRG ddim yn rhoi dim fewn ond ma gyna nhw jobs a.y.y.b. ac ma nhw yn llawer mwy proffesiynnol. A tydi rhwyn fel chdi, sy'n deall dim am yr SRG yn amlwg, ddim am ddeall hyn ac ystyried petha felma wrth bostio negeseuon felna. Ddim bo fi'n flin efo chdi am ddweud dy farn gan fod gan pawb berffaith hawl i'w farn', ond meddylia be ti'n ddweud tro nesa dyna oll dwi'n ddeud.