Gyda Bush yn ôl yn y Ty Gwyn, be nesa i'r byd o ran sefyllfa rhyfel?
Lle mae o'n debygol o'i fomio nesa?
Cymedrolwr: Cwlcymro
Treforian a ddywedodd:Gyda Bush yn ôl yn y Ty Gwyn, be nesa i'r byd o ran sefyllfa rhyfel?
Lle mae o'n debygol o'i fomio nesa?
Sioni Size a ddywedodd:Yr un mor hapus i weld America ac Israel yn eu dal. Peth ydi, mae'n syniad eithriadol o dda i wledydd fel Iran ddatblygu arfau niwclear gan ei fod yn ymddangos mai hynny yw'r unig beth wnaiff stopio Amercia Bush eu meddianu. Wele Gogledd Corea.
Sioni Size a ddywedodd:Wel mae'n amlwg fod Gogledd Corea wedi medru amddiffyn ei hun rhag ymsodiad oherwydd ei harfau, tra fod oddeutu 150,000 yn ol ffynhonellau diweddar o bobl Irac wedi marw yn sgil y rhyfel, ac yn parhau i farw ar raddfa eang.
Sioni Size a ddywedodd:Petai gan Irac 'WMD' mi fyddai wedi bod yn saff. Pwy dwi i ddweud pwy na chaiff amddiffyn ei hun? Ai dim ond America, Prydain ac Israel ddylid feddu arfau Niwclear Garnet? 'Neb' ydi dy ateb ideolegol, ac wrth gwrs cywir. Ond pan mae gang mor ffiaidd a'r americanwyr yn gwneud fel a mynnont mae hanes diweddar yn dangos mai arfogi eu hunain i'r eithaf ydi'r unig beth sy'n gweithio, fel mae Iran yn ei ddarganfod.
.100,000 wsnos dwytha, 150,000 wsnos yma. Mae petha'n waeth nag oeddwn i'n ei feddwl
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 44 gwestai