nicdafis a ddywedodd:Bob un o'r uchod.
Ma'n rhaid i fi gytuno da Nic. Dwi'n byw mewn cymuned wledig a dwi'n ceisio cyfrannu gyment a dwi'n gallu at bethe o fewn y nghymuned leol i ond yn aml ma hi'n anodd iawn cal popeth sydd isie arna i o fewn yr ardal hynny. Dwi'n cefnogi'r sinema fach leol, yn mynd i gigs/cyngherddau a dramau, yn aelod o'r galeri leol, prynu llaeth, wyau, cig a llysie o fferm leol, yn prynu bara o fan sy'n dod rownd dair gwaith yr wythnos a pan dwi'n mynd i'r dre(Caerfyrddin) dwi'n prynu nwydde yn y farchnad.
Dwi'n teithio tipyn 'da ngwaith felly dyw gyrru i Hwlffordd neu i Aberteifi, Abertawe neu hyd yn oed Caerdydd ddim yn ormodol er mwyn cael gweld drama, neu i fynd i weld perfformiad, arddangosfa neu ffilm arbennig. Ma'r ffaith y mod i yn byw mewn cymuned wledig yn golygu y mod i'n fwy parod i deithio. Ond ma'n rhaid i fi ddweud 'fyd y mod i'n gorfod teithio yn aml er mwyn cal y cyfle i weld/gwneud lot o'r pethe ma.
Fel ddwedodd Nic am i Afal dwi yr un peth da dvd's, ma'r siop agosa rhyw 4 milltir i ffwrdd o nghartre a dos braidd dim dewis o ffilmie dwi isie weld yna felly dwi di seinio fyny arlein i gal dvd's drwy'r post. A ma fe fel tase fe'n gweithio'n dda iawn i ddweud y gwir.
Dwi'n dod o Gaerdydd a di symud o'r ddinas ddrwg i gefn gwlad, dwi'm yn y ngweld i erioed yn symud yn ol i'r ddinas chwaith. Pan o ni yno mi oedden i'n cymryd rhan yn lot o bethe ond dwi'm yn meddwl y mod i'n sylweddoli gyment o arlyw oedd ar gael bryd hynny. Dwi'n gweld fod lot o bobol yn symud i Gaerdydd ond ma na gymuned arbennig o'r rheini sydd di symud i'r ddinas yn enwedig y Cymry Cymraeg (dwi'n siarad am lot o aelodau Maes-e) sydd a golwg hollol wahanol o'r ddinas i beth dwi'n i weld. Fues i fyth yn rhan o'r gymuned Gymraeg yma yng Nghaerdydd, ma'r mwyafrif o fy hen ffrindie yn dod o'r ddinas o'r dosbarth gweithiol(Saesneg ei hiaith) yn hytrach na'r dosbarth canol dysgedig(Cymraeg i hiaith).
Dwi di spowtio digon o rwtsh nawr, fel ddwedodd Nic dwi'm yn siwr os dwi'n ateb dy gwestion ta peidio Realydd ond gelli di gymryd be ti isie o be dwi di ddweud.