Wn i ddim lawer iawn am fusnesau gwerthu ceir yn enwedig rhai etholfraint. Yr unig beth y gwn yw bo perygl i fusnesau ceir etholfraint golli cytundebau os yw gwerthiant yn gostwng.
Ond weithiau mae rhywun yn teimlo'n safach prynu car gan Mr Jones y garej lleol na gan
Cars R Us.
Ond tybiaf i fusnes sydd yn gwerthu llysiau/cig lleol er enghraifft mae'r ffaith bo'r bobl leol yn dewis mynd Safeway i brynu bwydydd yn hytrach na'r siop leol oherwydd ei fod yn fwy hwylys/rhad yn sicr yn mynd i wneud niwed i'r busnesau bach.
Rydym ni yn bersonol wedi penderfyny y dylem wneud rhestr manwl o'r bwydydd rydym yn brynu yn aml ac yna darganfod o lle medrwn eu prynu yn lleol a pham mor aml yr ydym eu hangen ac yna gweithio rhyw fath o sustem lla nad oes raid i ni fynd i archfarchnad o gwbl i siopa.
Beth am gysylltu a siopau bach lleol a dweud wrthynt
'Os wnewch chi gadw hwn a hwn fel stoc ar eich silffoedd fe wnaf i ddod yma i'w brynu yn hytrach na mynd i Safeway'
I fynd a'r drafodaeth gam ymhellach, fallai bod yna ddyletswydd arnom i edrych ar labeli bwydydd ac edrych o lle mae'r bacwn a'r llefrith wedi dod cyn ei brynu. Fe es i o gwmpas pedwar siop ym Mhwlleli un tro cyn ffeindio llefrith o Hufenfa De Arfon a hwnnw ddim ond chydyg o filltiroedd lawr y ffordd! mewn un siop darganfyddais carton o lefrith oedd yn dweud 'Packed in Wales'! Gwarthus!