Aye ma nhw'r peis gora'n y byd ac yn rhan annatod o fywyd Sydney. Mae lluniau o ser y byd i gyd sydd wedi bwyta yno ar waliau cefn y fan.
Reit os ma isio genu cwrs PADI ag isio gneud o yn y Whitsundays, yna
Airlie Beach ydi'r dref fydd o angan cychwyn ohoni. Mae yno o leiaf 5 operator yno a tua 6 doctor sy'n gwneud y profion iechyd ar y sbot (nesh i fethu...ffecin asthma er fod gen i lyng capacity 10% uwch na'r gofyn ac yn smocio 40-a-day...ond gesh i fynd i hwylio am dridia mewn
yacht rasio 80 troedfedd a snorclo felly ro'n i'n hapus fel y boi).
Ti fel arfer yn gneud o am 4/5 diwrnod gan ymarfer mewn pwll yn Airlie am y diwrnod neu ddau cyntaf a wedyn gwneud deifs ar y reefs wedi hynny. Dwn im be di'r prisia erbyn hyn gan fod hynny nol yn 2000 pan fuish i yno.
Ma Airlie yn le, wel gwyllt fel gwrach o'r coed, gyda dim byd ond bariau a chlybiau o un pen o'r dre i'r llall ar hyd un stryd hir. Arhoses i yno am fis ar y piss gyda help f'annwyl Wncwl Barclay a cael ffwc o amsar da, ond wedyn hangofyr am fis yn pigo tomatos yun Bowen tua 60km i'r Gogledd. Bum deal go iawn. Yn
Reefo's neshi aros, oedd yn ffwc o rad ond ddigon dymunol, gyda brecwast helpu-dy-hun cynwysiedig yn y bora (felly, wrth gwrs, ti'n dwyn bara a spreads at amsar cinio bob dydd), bach yn bell o dre i gerddad ond agos i'r bottle shop lle ma'r gwin yn £3 am 5 litr (believe brother) ond ddim ond yn yfadwy efo Fanta.
Ma Cairns yn ffecin horibl, ddim ond werth mynd yno os tisio dal cwch allan at y barrier reef. Gyrra syth drwodd a dos i Mosman Gorge, tref fach hyfryd Port Douglas (lle ges i mrathu'n fyw gan fil o fozzies), a fforest law anghygoel
Cape Tribulation.
Ma Brisbane yn le bach del gyda phensaerniaeth led-colonial Fictorianaidd hyfryd rownd bob cornel sydd a mwy iddo na ma pobol yn deud ond chesh i mond tua wythnos yno yn oll.
Un peth ma
raid i ti neud: treulio tridia yn crwydro
Fraser Islandmewn 4x4. Fydd o'n un o'r profidau nei di fyth eianghofio tra fyddi byw. Dwi rioed wedi gweld lle efo gymaint o amrywiaeth naturiol o draethau hir a mor gwyllt yn llawn siarcod Teigr a morfilod i fforestydd galw a llynnoedd dwr croyw wedi'w brownio gan y Coed Te sydd yn tyfu ynddynt. Heb son am y bywyd gwyllt cynhenid: adar lliwgar, nadroedd, dingoes, ma popeth yno.
Oce, na ddigon o baldaruo rho showt os tisio gwbod mwy am lefydd penodol. O ia, mewn BMW coch 3 series 1980 nesh i deithio -
stylin'
Maes-eio ers 2002, yo.