Dramau Digidol

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dramau Digidol

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 13 Rhag 2002 1:42 pm

Welis i ffilm neithiwr ar S4C, oedd o'r peth mwyaf chwerthinllyd dwi wedi ei weld ar y sianel ers oes pys. Oedd na bedwar ohonan ni yn piso crio'n chwerthin yn y lownj. Y pwynt yw doedd o ddim i fod yn gomedi. Chwarae teg i S4C am gomisynu Cant Y Cant(2000) (Cant o conts fwy tebyg). Ffilm wych arall ganddynt i ychwanegu at eu casgliad o dyrdiau clyweledol sy'n prysur flocio bog cynnyrch S4C. Oes rhywun arall wedi ei gweld hi? Ai jest fi sydd ddim mewn cysylltiad a realiti? Shwrli not.

NGGGGGHHHHHH...un arall ar y ffordd..."Dirgelwch yr Ogof"...Sblash! :lol: Dowch a'r domestos...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Geraint » Gwe 13 Rhag 2002 2:18 pm

Doedd o ddim mor wael a ni,

Like it or not, roedd yn adlewyrchu "lifestyle" llawer o bobl, yn cynnwys siaradwyr Cymraeg, enwedig lawr yma yng Nghaerdydd. :ofn: Fel rhyw fath o Human Traffic Cymraeg. Ddim yn hollol llwyddianus, na, ond pam ddim trio gwnued rhaglenni gwahanol fel hyn. A gyda fwy o brofiad, fe wnewn nhw wella os maent yn cael y cyfle. Am unwaith, dwi'n deud da iawn S4C am fod yn ddewr.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 13 Rhag 2002 2:36 pm

Efallai wir ei fod yn trio adlewyrchu math o lifestyle yma yng Nghaerdydd, ond i wneud o mewn ffordd mor derivative o'r union ddwy ffilm yna - Human Traffic/Trainspotting. Come on! Oedd o'n rwtsh: voiceover dros y boi'n mynd o amgylch ei bethe "Dwi'm isio bod yn rhan o gweithio naw tan chwech a rhedeg adref i weld Eastenders, prynu dodrefn o IKEA bla bla bla" hmmmm? swnio'n gyfarwydd? "Choose life, choose a job ayyb" [dylyfu gen] , deialog crap ac roedd yr actio yn stiff fel plancia, o'n i'n meddwl bo fi'n sbio ar seciwriti camera b&q am chydig.

Os ma nhw am roi arian i bobl wneud ffilmiau beth am roi'r arian i bobl sydd a syniadau gwreiddiol. I fod yn deg mi fuodd S4C yn eitha dewr yn ariannu Diwrno Hollol Mindblowing oedd yn reit dda (heblaw am ffacin Super Furries yn y nglust yr holl fford drwodd. Variation yn y soundtrack?) iawn, ond oedd o'n syniad eithaf da a gwreiddiol. Dim jest ripio off ffilms eraill a defnyddio bach o shaky lens. Laff ddo. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Geraint » Gwe 13 Rhag 2002 3:03 pm

Ie, digon teg, doedd o ddim yn wreiddiol o gwbl! Ond ma rhaid cymryd un cam ar y tro, ni allwch chi wneud clasuron neu pethau hollol gwreiddiol trwy'r amser, neu fase lot mwy ohonynt. Dwi ddim yn gwybod faint o bobl ifanc sydd yn sgwennu dramau Cymraeg, ond y fwya o gyfleuon sydd, y gore. Ni fydd pob un yn dda, ond o leia mae nhw yn trio, a gallent dysgu o'r profiad. Hefyd, mae'n dda weld dramau sydd ddim wedi selio ar problemau priodasol pobl canol oed neu myfyrwir yn Bangor neu Stad o dai yn Caernarfon :rolio:

Heb weld Diwrnod Hollol Mindblowing, swnio'n dda

Be oeddech chi'n meddwl am y Ty? Roedd yn wahanol, ond nath y gyfres golli'r plot yn llwyr
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Meinir Thomas » Gwe 13 Rhag 2002 6:52 pm

Roedd Diwrnod Hollol Minblowing yn uffernol. 'Nes i ddim mwynhau "Y Ty" chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

sebidibadibydibolscyrec cont!

Postiogan Rhodri Nwdls » Sad 14 Rhag 2002 2:42 am

Sgen i'm syniad am "y ty" (swnio'n shit, "ty bach") ond roedd yna ymdrech weddol dda o leia gan Diwrnod... well ffwc o beth na treflan a rhyw gachu rwtsh arall mae sbedarec (cyf. Sianel Pobol Cul) yn pibo allan. Dwi'm yn deud fod y sianeli eraill yn gallu creu cynnwys gwell, sbiwch ar unrhyw raglen heblaw am sianeli BBC ar Sky, ffacin bwlshit. Ond dylsen ni anelu'n uwch, mae ganddon ni dalent naturiol am straeon yng Nghymru a dylai fod na lawer mwy o bethau gwreiddiol yn dod allan o'r bocs na yn y lownj yn hytrach na'r rhech potal finag na sy'n pwffio tuag ataf bob noson ar sebidibadibydibolscyrec CONT!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai