Ma medieval total war yn class. Ond un problem efo'r gem i fi ydi bod dwi ddim yn hoffi mynd rhy bell fewn i'r gem. Os di gwlad fi'n mynd rhy mawr dwi yn tueddu i ddechra eto. Y Russians dwi'n licio chwara fel yn y late stage. Ma byddin o cavalry archers a halberd yn effeithiol iawn, gyda steppe cavalry i hitio'r flanks.
Efo'r Viking invasion, ma chwara efo cymru'n dda, mae'r bandits yn wych. Ond fy gwir ffefryn ydi'r llychlynnwyr, sy'n creu llanast yn erbyn pwy bynnag ma nhw'n cwffio.
Dwi di ailddechra chwara rome eto'n ddiweddar, ma pc fi ddim y gora a doni ddim yn gweld y pwynt yn cwffio efo units o 20 (oedd o ddim yn edrych yn iawn). Ond dwi di cael graffics card newydd rwan a dwi di pwsio fyny i 40 yn pob unit. Dwi ddim di mynd yn bell yn hwn, dwi pob amser yn neud camgymeriadau costys, fel cael byddin o 2000 cael ei suddo ar y ffordd i cartheg a petha felly.
Dwi awydd gem yn erbyn rhywun, dim ots yn pa gem