Eve = Noswyl? Nos? Noson?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Eve = Noswyl? Nos? Noson?

Postiogan Geraint » Gwe 24 Rhag 2004 10:40 am

Oes na air Cymraeg am eve?

Christmas eve yw......diwrnod cyn nadolig?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 24 Rhag 2004 10:41 am

Noswyl Nadolig.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Geraint » Gwe 24 Rhag 2004 10:48 am

Felly noswyl calan?

Gyda llaw dwi di sylwi fod calan yn meddwl 'diwrnod cynta y mis' a dim i wneud da diwrnod cynta y flwyddyn. O ni heb sylwi na o'r blaen.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 24 Rhag 2004 10:54 am

Nage, Nos Galan, ond paid â gofyn pam fod hynny'n wahanol.

Ie, parthed y gair Calan, mae Nos Galan (a'r Calennig), Calan Mai a Chalan Gaeaf yn bodoli, ond dy'n ni ddim yn cyfeirio'n gyffredinol at ddiwrnod cynta'r mis fel 'calan y mis'. Pam ddim?

Hen air hefyd - achos cyntaf wedi'i gofnodi oddeutu'r ddeuddegfed ganrif yn ol GPC, "tranoeth guedi kalan".
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan sanddef » Gwe 24 Rhag 2004 12:24 pm

Nos Nadolig
Rhaid cofio fod dan draddodiad hynafol y Celtiaid y mae'r dydd (cylch 24 awr) yn dechrau efo'r nos.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan garynysmon » Gwe 24 Rhag 2004 12:27 pm

Dydi 'Nos Nadolig' ddim yn swnio'n iawn i mi. 'Noswyl' fyswn i wastad yn ei ddweud.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Treforian » Gwe 24 Rhag 2004 2:27 pm

Mae'n ymddangos yn rhyfedd i mi bod y gair 'noswyl' i fod i gyfri am y dydd hefyd :?
oes 'na air arall am y dydd tybed?
wedi dweud hynny, mae 'eve' yn y saesneg yn awgrymu'r nos hefyd.
Treforian
 

Postiogan dafydd » Gwe 24 Rhag 2004 4:26 pm

Mae e'n dod o 'Nos Ŵyl', sy ddim yn golygu 'noson yr ŵyl' ond 'y diwrnod a'r noson cyn diwrnod gŵyl' (neu 'vigil' - cyfnod o warchod neu cadw ar ddihun)
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Eejit » Sul 26 Rhag 2004 9:06 pm

efallai fod y gair eve wedi dod o'r gair 'evening' a felly yn cyfeirio at y 'noswyl'. ?
Be wyddwn i?
Rhithffurf defnyddiwr
Eejit
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 4:38 pm
Lleoliad: adra...sweet adra

Postiogan dafydd » Sul 26 Rhag 2004 11:16 pm

Eejit a ddywedodd:efallai fod y gair eve wedi dod o'r gair 'evening' a felly yn cyfeirio at y 'noswyl'. ?

Yn ôl y rhan fwyaf o eiriaduron does dim cysylltiad rhwng eve a evening.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron