gan nicdafis » Mer 19 Ion 2005 12:09 pm
Er enghraifft, dw i newydd ddileu cwpl o negeseuon o'r <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=10369">edefyn hwn</a>. I ddechrau off, mae <b>Ti 'di beni?</b> yn dweud "Fysa pawb sydd efo diddordeb yn ymateb i'r edefyn hwn?" sy'n ddigon teg, ond dyw e ddim yn golygu taw fe sy'n cymedroli'r edefyn. Wnaeth <b>Rhys Llwyd</b> <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?p=154579#154579">jôc bach</a>, ond wnaeth hwnna ddim torri ar draws yr edefyn, ac aeth pethau yn eu blaen, nes i <b>Ti 'di beni?</b> penderfynnu dweud y drefnu wrth Rhys am faeddu wneud jôc yn "ei edefyn e". Ac wedyn, wrth gwrs, mae rhaid i Rhys ymateb i'r cyhuddiad difrifol iawn hwnna, ac yn lle edefyn lle mae pobl yn trafod y posibiliad o gael seiat newydd ar y maes, dyn ni mewn edefyn am egos bregus dau faeswr.
Dw i ddim yn pigo ar y ddau ohonoch chi fan hyn, jyst defnyddio'r edefyn fel enghraifft o rywbeth sy'n digwydd bob dydd ar y maes.
Pwnc yr edefyn hwnna yw "Seiat newydd - Gwyddoniaeth", nid "a oes hawl 'da Rhys Llwyd wneud jôc yn fy edefyn i?" neu "A oes synnwr hiwmor 'da Ti 'di bennu?"
A plis, peidiwch â dod yn ôl gyda'r "Sori Mr Dafis" ffug-barchus arferol - dw i ddim yn athro ysgol sul blin, dw i'n jyst trial rhedeg gwefan lle mae pobl yn gallu cael sgwrs bach.