gan nicdafis » Iau 06 Ion 2005 5:22 pm
Fel arfer, os dw i'n dileu rhywbeth dw i'n hala neges sydyn at y person a'i bostiodd, oni bai bod hi'n rhywbeth digon ffwrdd-â-hi (rhywun yn bostio cwpl o wenogluniau yn lle ymateb yn gall, neu rhywbeth fel 'na). Os dw i'n dileu edefyn cyfan dw i wastad yn wneud hyn, a fel arfer, yn hytrach na dileu'r edefyn, dw i'n ei symud i seiat arbennig, Y Fynwent, jyst rhag ofn fy mod i wedi bod yn or-sensitif. Mae hyn yn rhoi siawns i'r gweinyddwyr eraill dweud wrtha i i dynnu'r ffon o'm pen-ôl, a rhoi'r edefyn nôl.
Un broblem sy gyda ni ar y maes (a phroblem y meddalwedd yw hyn) yw does dim modd i neb gweld <b>pwy</b> sy wedi dileu eu sylwadau, felly maen nhw'n teimlo bod rhywun, rhywle, <b>mas yna</b> yn pigo arnyn nhw. Dw i'n deall hynny, a dyna pam dw i'n tueddu dweud.