canllawiau maes-e a ddywedodd:b. Bydd dadlau gyda cymedrolwr sy wedi rhoi rhybudd i chi yn ennill rhybudd awtomatig newydd, a gwaharddiad dros dro, os bydd hynny eich pedwerydd rhybudd.
Ydy hyn yn golygu bod y cymedrolwyr yn iawn bob tro?
Nady, wrth gwrs nagyw e. Ond yn hytrach na dinistrio sgwrs arall, beth am gymryd cam yn ôl o'r cyfrifiadur, cael panad o de, wedyn gweld a oedd pwynt gyda'r cymedrolwr. Os wyt ti'n dal i feddwl taw ti oedd yn iawn, paid wastraffu mwy o dy amser di teimlo yn grac, ond cysyllta â fi (neu un o'r gweinyddwyr eraill) i ni gael cip ar y sefyllfa.
Wrth gwrs, mae gweinyddwyr yn wneud camgymeriadau hefyd, does neb yma yn berffaith*, ond mae'r Grwp Llywio a'r cymedrolwyr yn wneud eu gorau glas i fod yn ddi-duedd.
Onest.
* Nawr dw i'n meddwl amdano, oedd un boi a <b>oedd</b> yn berffaith, ond oedd rhaid i ni gael gwared ohono fe yn y diwedd. Sôn am fod yn boen yn y ffycin pen-ol!