[canllawiau] 5b Dadlau gyda'r cymedrolwyr

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

[canllawiau] 5b Dadlau gyda'r cymedrolwyr

Postiogan nicdafis » Iau 06 Ion 2005 5:28 pm

canllawiau maes-e a ddywedodd:b. Bydd dadlau gyda cymedrolwr sy wedi rhoi rhybudd i chi yn ennill rhybudd awtomatig newydd, a gwaharddiad dros dro, os bydd hynny eich pedwerydd rhybudd.


Ydy hyn yn golygu bod y cymedrolwyr yn iawn bob tro?

Nady, wrth gwrs nagyw e. Ond yn hytrach na dinistrio sgwrs arall, beth am gymryd cam yn ôl o'r cyfrifiadur, cael panad o de, wedyn gweld a oedd pwynt gyda'r cymedrolwr. Os wyt ti'n dal i feddwl taw ti oedd yn iawn, paid wastraffu mwy o dy amser di teimlo yn grac, ond cysyllta â fi (neu un o'r gweinyddwyr eraill) i ni gael cip ar y sefyllfa.

Wrth gwrs, mae gweinyddwyr yn wneud camgymeriadau hefyd, does neb yma yn berffaith*, ond mae'r Grwp Llywio a'r cymedrolwyr yn wneud eu gorau glas i fod yn ddi-duedd.

Onest.



* Nawr dw i'n meddwl amdano, oedd un boi a <b>oedd</b> yn berffaith, ond oedd rhaid i ni gael gwared ohono fe yn y diwedd. Sôn am fod yn boen yn y ffycin pen-ol!
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: [canllawiau] 5b Dadlau gyda'r cymedrolwyr

Postiogan Aran » Iau 06 Ion 2005 6:15 pm

nicdafis a ddywedodd:
* Nawr dw i'n meddwl amdano, oedd un boi a <b>oedd</b> yn berffaith, ond oedd rhaid i ni gael gwared ohono fe yn y diwedd. Sôn am fod yn boen yn y ffycin pen-ol!


O'n i'n meddwl mod i heb weld Cardi ers dipyn... :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Macsen » Iau 06 Ion 2005 6:29 pm

Beth yw'r llinell rhwng dadlau ac esbonio y rheswm dros beth ddywedaist ti? Dweud fy mod i'n cyhuddo ryw faeswr o fod yn ddall, er engraifft, a bod cymedrolwr yn rhoi stwr i mi, ond fy mod i am esbonio wedyn fy mod i wedi galw'r maeswr/wraig yna'n ddal am ei fod o/hi'n ddall, ydi hynny'n cyfri fel dadlau? :seiclops:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Iau 06 Ion 2005 6:38 pm

Mae'r llinell yn union lle byddet ti'n disgwyl iddi hi fod. Synnwyr cyffredin bydd biau hi, bob tro.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron