[canllawiau] 1h "Pam mae X wedi'i ddileu?!?!"

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

[canllawiau] 1h "Pam mae X wedi'i ddileu?!?!"

Postiogan nicdafis » Iau 06 Ion 2005 3:47 pm

canllawiau maes-e a ddywedodd:1h. Mae gan cymedrolwyr a gweinyddwyr maes-e yr hawl i olygu neu ddileu unrhyw neges am unrhyw reswm. Os ydy'ch neges wedi diflannu, mae'n debyg eich bod chi wedi torri un o'r rheolau yma. Dydy cwyno amdano ddim yn mynd i ddod â'ch neges yn ôl.


O'r diwedd - un edefyn lle allwn ni gyfeirio'r person nesa i ofyn y cwestiwn 'ma.

A'r person nesa.

A'r person nesa.

;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Emrys Weil » Iau 06 Ion 2005 5:03 pm

Mae'r canllawiau hyn yn synhwyrol ac yn war, ond a fydd modd i rywun y cafodd ei neges ei dileu, gael gwybod y rheswm pam, boed yma, neu drwy neges breifat i'r cymedrolwr?
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan nicdafis » Iau 06 Ion 2005 5:22 pm

Fel arfer, os dw i'n dileu rhywbeth dw i'n hala neges sydyn at y person a'i bostiodd, oni bai bod hi'n rhywbeth digon ffwrdd-â-hi (rhywun yn bostio cwpl o wenogluniau yn lle ymateb yn gall, neu rhywbeth fel 'na). Os dw i'n dileu edefyn cyfan dw i wastad yn wneud hyn, a fel arfer, yn hytrach na dileu'r edefyn, dw i'n ei symud i seiat arbennig, Y Fynwent, jyst rhag ofn fy mod i wedi bod yn or-sensitif. Mae hyn yn rhoi siawns i'r gweinyddwyr eraill dweud wrtha i i dynnu'r ffon o'm pen-ôl, a rhoi'r edefyn nôl.

Un broblem sy gyda ni ar y maes (a phroblem y meddalwedd yw hyn) yw does dim modd i neb gweld <b>pwy</b> sy wedi dileu eu sylwadau, felly maen nhw'n teimlo bod rhywun, rhywle, <b>mas yna</b> yn pigo arnyn nhw. Dw i'n deall hynny, a dyna pam dw i'n tueddu dweud.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Aran » Iau 06 Ion 2005 6:13 pm

Ia - dw i'n meddwl bod ni gyd yn tueddu i ddeud, am wn i. Byddwn i'n dileu rhywbeth heb roi gwybod pe bai 'na gyfuniad o a) neges hollol dibwrpas neu ymosodol a b) diffyg amser.

Dw i'n dioddef o b) yn fwy na beth dw i'n gweld a), ond bydda i'n rhoi gwybod mewn achosion lle nad ydy a) a b) yn digwydd yr un pryd... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Macsen » Iau 06 Ion 2005 6:37 pm

Mi ddylsai cymedrolwyr sy'n symud edefyn hefyd roi gwybod. Mae yna gronfa mawr o edefion yn rhywle gan bobl sydd heb ddarganfod y Blwch Tywod ac sy'n poeni ei bod yn euog o ryw dramgwydd. :seiclops:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Iau 06 Ion 2005 6:48 pm

I fynd yn ôl at gwestiwn Emrys am eiliad, does gen i ddim problem gyda unrhyw sy eisiau gofyn am esboniad yma - ond mae'n wneud mwy o sens i ni gael un edefyn ar gyfer hyn yn lle un newydd bob tro mae rhywun yn postio llun o ferch noeth ac wedyn eisiau sgrechian am ffasgiaeth maes-e ar ôl iddo fe gael ei ddileu.

Mae'r pwynt am y Blwch Tywod yn un da. Oes edefyn "Beth yw'r Blwch Tywod 'ma mae pobl yn sôn amdano, a sut alla i ymuno â'r hwyl?" rhywle? Os na, falle bod angen un.

Y rheswm tu ôl i wneud y Blwch Tywod yn gylch defnyddwyr, wrth gwrs, oedd nad o'n ni am i aelodau newydd gweld hwnna cyn iddyn nhw ddod yn arfer â gweddill y maes.

Bydd aelodau newydd <b>newydd</b> cyn bo hir, felly mae hyn yn rhywbeth i feddwl amdano. Ond dw i'n cytun â ti Macsen, dyw e ddim yn deg i symud edefyn i rywle lle na all y person a'i bostiodd cyfrannu, heb ddweud wrth y person hwnna. Ac mae'r fath o edefyn sy'n cael ei symud i'r Blwch yn fwy tebyg i gael ei ddechrau gan rywun sy ddim yn y cabal.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron