canllawiau maes-e a ddywedodd:a. Gellid cynnwys hyd at 255 llythyren/gofod mewn llofnod, neu un llun dim mwy na 60 picsel tal x 400 picsel o led. Dim lluniau wedi'u hanimeiddio.
b. Dylid defnyddio maint ffont "arferol" neu "llai". Mae canllawiau uchod ynglyn â chynnwys ac ansawdd cofnodion yn berthnasol yma hefyd.
c. Cewch ddefnyddio dolennau mewn llofnodion, o fewn y terfynau uchod. Caiff dolennau i safleoedd anweddus eu dileu.
Gawn ni weld os ydy un edefyn ar gyfer y canllawiau ynglyn â llofnodion yn ddigonol.
Dw i'n rhagweld y bydd hyn yn achosi mwy o drafferth na dim byd arall yn y canllawiau newydd, achos bod hyn a'r stwff am rithffurfiau yw'r unig pethau newydd ynddo, yn y bôn.
Cofiwch, nid fi dyfeisiodd y canllawiau yma, dim ond au haddasu dw i wedi wneud
Dw i'n gwybod bydd hyn yn amhoblogaidd gyda llawer, ond mae'r busnes gyda llofnodion wedi mynd tu hwnt i jôc, gyda sawl aelod yn defnyddio llofnodion sy'n fwy o seis na'r rhan fwya o'u sylwadau. Dyn ni wedi sylwi hefyd, y mwy mae maint llofnod rhywun, y mwy tebyg ydyn nhw i bostio negeseuon fel hyn:
person gyda llofnod anferth a ddywedodd::lol::lol::lol::lol::lol::lol:
sy'n bryfoclyd x2.
Felly, mae amnest o ryw tair wythnos 'da chi, ond erbyn diwedd mis Ionawr bydd llofnodion sy ddim yn cydfynd â'r uchod yn cael eu dileu.
Dw i'n teimlo'n well yn barod.