gan Twyllwr Rhinweddol » Mer 06 Ebr 2005 5:07 pm
Reit - cyn y llith, gad i mi esbonio fy mod i’n un o’r snobs diwylliannol mwya’ gei di (ddim yn beth i ymffrostio ynddo, ond ’na ni…).
Roedden ni’n aros mewn bynglo bach ynghanol bynglos eraill (resort felly). Roedd y tŷ yn neis, a’r stâd yn eithaf tawel (llawn hen bobol – rho hen bobol i fi cyn lagyr lawts prydeinig unrhyw ddydd!).
Roedd yn well gan y criw oeddwn i wedi mynd efo nhw aros wrth y pwll yn torheulo yn y dydd na mynd i edrach o gwmpas. Mi wnes i hyn ambell i ddiwrnod hefyd, a rhaid cyfaddef – mi oedd darllen Catch 22 ac yfed cwrw oer ar brynhawn poeth yn brofiad pleserus iawn…
Ond, ar ôl deuddydd, cefais ddigon ar gwcio yn yr haul ac off â fi a’r phrasebook am dro fach.
Trip o amgylch y siopau yn Playa del Ingles (Traeth y Sais) - lot o siopau yn gwerthu shit swfeniraidd. Hefyd, am ryw reswm, lot o anrhegion o Jamaica yn bropaganda lliwgar i gyfreithloni canabis (:?). Prif ganolbwynt y dref = Canolfan Yumbo. O be welais i – cymysgedd o siopau anrhegion rhad, copis o fagiau llaw designer (am brisiau rhad) a mwy o siopau persawr a ballu na fedri di ddychmygu – oddan nhw yn bob man! Siopau designer ar y llawr gwaelod.
Puerto Rico – roedd y ‘rep’ wedi fy mharatoi ar gyfer gwledd bensaernïol a harddwch tu hwnt i fy nirnad. Hmm – os ti’n synied bo miloedd o dai gwyliau wedi eu naddu i mewn i’r graig yn hardd – mae’n debyg ei fod o. Ond wedi dweud hynny, dwi’n falch mod i wedi gweld y math yna o beth – mae o’n gosod ambell i beth yn ei gyd-destun fel petai. Mynd ar drip cwch nes i. Ddylwn i ddim fod wedi gwneud hynny, achos doedd hi’m yn ddiwrnod braf. Pawb ar y cwch yn sâl. 5 awr o gael ein taflu o un ochr i’r llall. Artaith llwyr. Ond mi oedd hyn yn mis Chwefror/Mawrth…
Mi arhosodd y bws yn amgueddfa Perla Canaria ar y ffordd yn ôl. Amgueddfa berlau. Dwi rioed wedi bod mor bord yn fy myw! Paid â mynd yna – mae o WIR yn anniddorol!
Puerto Mogán – Dyma’r lle wnes i fwynhau ymweld ag o fwyaf. Roedd yn fy atgoffa o’r trefi glan môr mwy hen ffasiwn dwi wedi ymweld â nhw – trefi pysgota yn Ffrainc ayb. Roedd hi’n ddiwrnod marchnad pan es i yna. Mi oedd ’na bethau diddorol i’w canfod yn y farchnad ond eu bod nhw’n cael eu cuddio gan y cannoedd o stondinau gwerthu bagiau llaw ffêcs. Ond, dyma’r unig le yr ymwelais i ag o oedd fel petai o wedi gallu dal gafael ar ddiwydiant nad oedd yn ddiwydiant twristiaeth.
Bwytai – lyfli a prôns HIWJ!
O ran adloniant nosweithiol – fyddwn i ddim yn meddwl bod llawer i’r llwyrymwrthodwr ei wneud ar arfordir deheuol Gran Canaria! Mae ’na lawer o fars eithaf neis a rilacsd yna – dim drws a gwresogyddion patio yn rhoi awyrgylch braf. Digonedd o glybiau nos hefyd (Ministry of Sound, Cream a ballu – hmm). Yn y Ganolfan Yumbo, cynhyrfais yn lân wrth weld bar Cymraeg – Toby’s Welsh Bar – Cymro Cymraeg o Ddolgellau yn gweithio yno a baneri Cymru a Glyndŵr ym mhob man.
Roedd hi’n wythnos garnifal pan aethom ni yna, ac felly yn brysur a bywiog iawn ar adeg cymharol dawel o’r flwyddyn fel arall.
Mae hanes ddiddorol i’r ynys hefyd. Hanes y Sbaenwyr yn dod i mewn ac yn concro, gan droi’r brodorion (a oedd yn flaenorol yn addoli’r haul) yn Gristnogion. Mi blygodd y rhan fwya’ i ffyrdd a iaith y Sbaenwyr, ond mi aeth y lleill – a oedd wedi gwrthod troi – yn eu cannoedd i fyny mynydd yng ngogledd yr ynys a neidio oddi ar y dibyn i’w marwolaeth. Felly, does dim yn wirioneddol frodorol yna.
Ar y cyfan felly, mi gefais amser da a digon o hwyl. Fyswn i’n mynd nôl? Hmmm.... byswn ella, am yr ymlacio.