Criw o 8 ohonyn ni oedd yr unig bobol oedd yn gwylio'r gem yn lle oedden ni - cafe bar/siop ffags ar Rue de Clichy gyda'r barman mwya blin erioed. Mi oedden ni'n lwcus i gael hyd i deledu fyd er i'r gyrrwr tacsi a oedd yn honni i fod yn ex-algerian secret service yrru fel idiot o gwmpas yr ardal, parcio ar ganol stryd, a rhedeg i bob pub gan edrych am deledu. Gwd laff yn O'Sullivans ddiwedd nos ddo, a odd hostel ni jyst o dan Basilica Sacre Coeur felly ges i foment o ddiwylliant ar ol cael cynnig cyffuriau ar y ffor adre.
gwd wicend!