Gweler yma, yma ac yma
I weithiwr 9-5 fel fi, dwi ddim yn hapus hefo gorfod troi'r cloc yn ei ol dros y gaeaf. Pan mae hi'n dywyll fedra i ddim mynd allan o'r ty am dro, ar fy meic fel y buaswn yn dymuno gwneud os buasai golau dydd. Dim gwahaniaeth gen i os yw hi'n dywyllach am hirach yn y bore- ar ol gwaith dwi eisiau golau. Rydw i'n gwerthfawrogi fod falle rhai pobl eraill hefo barn hollol groes (e.e. ffermwyr?) ond dyna fy marn i.
Yr Albanwyr sydd fwyaf eisiau newid y cloc yn ei ol fel dwi'n deall. Wel pam na fuasai nhw'n cael time zone gwahanol acw, mae ganddyn nhw senedd rwan, fel fod pobl Cymru a Lloegr yn gallu cael nosweithiau fwy golau dros y gaeaf yn lle fod ni'n hybernatio fel hyn.