Iwerddon

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Iwerddon

Postiogan Treforian » Sul 13 Maw 2005 10:12 am

Ar hyn o bryd, dwi wrthi yn trefnu trip i griw ohonon ni fynd i Werddon i jolihoetan. Tua tair blynedd o rwan fydd y trip, achos dwi'n bymtheg dydd llun (visa, switsh neu fastyrcard neith yn iawn) ac angen meddwl am fy nhrip deunaw. A lle gwell i fynd na Werddon? Guinness, harddwch, tafarndai, rygbi, hanes, Gwyddelod, Dulyn...dwi'n gweld y lle fel rhyw Ynys Afallon!

Felly, rhannwch eich profiadau am dripiau gwyllt i Werddon yn fama! Beth i'w wneud? Sut i'w wneud o? Beth i'w osgoi? A sut mae arbed cyn gymaint â phosib o arian??
Treforian
 

Postiogan Norman » Sul 13 Maw 2005 1:14 pm

Mi o ni'n Dulyn union flwyddyn nol - lle gwych i'w weld, ond blydi oer a drud, os ti ar buget go iawn wrach fod rhywle fel Galway yn well ?
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan Treforian » Sul 13 Maw 2005 1:28 pm

diolch norman - dwi newydd roi galway i mewn i lluniu gwgl a mae o i weld yn lle tipyn gell na Dulyn am sesh, wedi meddwl. Heb gael ei fanipiwleiddio gan y twrists, ella. Dwn im. Edrach fel lle brafiach, mwy gwerinol.
diolch beth bynnag.
Treforian
 

Postiogan Dai dom da » Sul 13 Maw 2005 3:09 pm

Dwi wedi bod i Iwerddon cwpwl o weithie nawr gyda teulu a teithiau'r urdd. Lle cynta bues i ynddo oedd Killarney - pentref/tref bach yng nghanol y wlad, lle neis iawn, ond dim lot i neud. Ail lle oedd Youghal. Roedd hwn yn lle gret, digon o stwff i neud ac ar bwys y mor - golff, snwcer, arcade, bowling alley - a lot o llefydd agos i ymweld ag. Dwi di bod yn Nulyn unwaith, ddim rhy keen ar y lle ma i fod yn onest - wedd e bach yn rwff. Ond digon o bethe i gwneud a weld. Trefi arall dwi di bod ynddo yw Cork, Wexford a Waterford. Ond dim ond pasio drwyddo neu ymweld yn gloi wedd rhein.

Felly dwi'n awgrymu trip i Iwerddon yn gryf iawn, wel dwi enjoio pob tro dwy di bod hyd yn hyn beth bynnag. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan hagfan » Maw 15 Maw 2005 1:54 pm

Kilkenny yn le arbennig am sesh! Tralee yn eitha dda, Killarney llawn tafarnau chwarae cerddoriaeth byw, Wexford yn weddol, ond hwylus oherwydd mae'n agos Rosslaire.

Bod yn Nulyn sawl gwaith, ddrud iawn nawr, soi'n credu a'i nol am sbel.
Rhithffurf defnyddiwr
hagfan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Mer 28 Gor 2004 12:13 pm
Lleoliad: Llangrannog

Postiogan Cardi Bach » Maw 15 Maw 2005 3:45 pm

Os bydden i'n ti bydden i'n osgoi Dulyn.
Mae'n le iawn am rai trips diwyllianol - mynd i Kilmainham; Croke Park; St Stephens Green; GPO etc
ond os am brofiad o Iwerddon go iawn cer rwle - unrhywle - arall.
Paid cal dy gamarwain gyda lluniau rhamantaidd am Galway - ma'r lle yn Fecca i dwristiaid - ond mae'n le gwych, ac mi wneu di fwynhau yn fawr yno.
Corc yn ddinas rhagorol, a'r cyffuniau hefyd. Ges i a chriw o ffrindie hwyl gythreilig yn Clonakilty dwy flynedd yn ol.
Cofia fod y llefydd yma oll yn ganolfannau twristaidd, ac fod y bobl yn adnabod twrist o filltir.
Ma Mullingar serch hynny y peth pella o ganolfan dwristaidd y cei di - yn sylfaenol mae'r lle yn dwll - does dim i wneud yno ond gyrru trwy'r lle, yr un moth a Athlone. Ond ma'r tafarndai yn hwyl.
Mae'n dibynnu am faint o amser wyt ti'n meddwl mynd yno, a beth wyt ti'n gobeithio ei wneud a chyflawni yno yn yr amser hynny.
Os mai tridie o tanco fel ych yw'r bwriad yna cadw at ddinasoedd Galway a Corc.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Beti » Maw 15 Maw 2005 4:05 pm

Ie - Galway ydy'r lle. Lle gwerinol, llai comersial na Dulyn. A mae 'na bentre bach sy ddim yn bell o'r enw Spiddal - o'dd hi'n neis iawn fan'na - fues i'n carafanio 'na, ww, sawl blwyddyn yn ol wan.
Cer amdani! Ew, orgynaisd iawn wyt ti a thair blynedd i fynd!
Dwisho mynd rwan....... :crio:
Beti
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 706
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:47 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 15 Maw 2005 5:41 pm

Dwi'n eitha licio Dulyn Cardi.

Dwmbod, falle fi sy'n licio mynd am city breaks - dwli ar Prague, Barcalona, Dulyn ayb. Odi, ma fe'n lle drud, ond ma Iwerddon yn le drud. Be fi'n licio am Dulyn yw fod e'n ddinas mawr prysur ddim yn anhebyg i Lundain, ond fod e'n le mor ifanc! Wrth ifanc, dwi'n golygu o rhan poblogaeth, ma'r lle yn llawn o bobl ifanc.

Treforian - os wy ti'n mynd draw i ddilyn, ma na hostels rhad am tua 60 Euro am bythefnos a ma rhiad mynd i Temple Bar (Camden Town Dulyn) Y peth mwyaf bizaree am Iwerddon ydi dim smygu mewn tafarndai na hyd yn oed clybiau nos, ond ma na lefydd gyda Gerddi Cwrw lle eli di fwynhau ffag neu sbliff bach slei.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Dai dom da » Maw 15 Maw 2005 11:30 pm

Treforian - os wy ti'n mynd draw i ddilyn, ma na hostels rhad am tua 60 Euro am bythefnos......


Aye, mewn hostel arhoses i yn nulyn 'fyd. Jacobs Inn oedd enw'r lle, sai'n gallu cofio'r actual lleoliad yn Nulyn ddo. Wedd hwn yn lle gret, ystafelloedd enfawr a shower, bath a toiled i bob ystafell! Wedd peil o bobl ifanc 'na, a we chi'n cael brecwast am ddim. Nice. Wedd e'n lle saff iawn fyd - carden wedd yn agor yr ystafelloedd felly roedd popeth yn ddigon saff tu fewn.

Dyma'r lle gyda llaw, Jacobs Inn.

Un lle arall enjoies i mas draw oedd yn y Ffactori Guinnes, fan yn nes i blasu'r guinnes fwya perffaith eriod. Lle hanesyddol. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Iwerddon

Postiogan Elsan » Iau 24 Maw 2005 6:20 am

Galway,yn bendant. Lot gwell na Dulyn os ti'n chwilio am rwla mwy gwerinol. Lot fawr o bybs gret - King's Head a Taffee's yn enwedig.
Rhithffurf defnyddiwr
Elsan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 63
Ymunwyd: Iau 24 Maw 2005 6:04 am
Lleoliad: Pen Llyn

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai