Cofiwch Dryweryn

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cofiwch Dryweryn

Postiogan Kymro » Llun 21 Gor 2003 3:11 pm

On i'n mynd lawr i Abertawe Dydd Sadwrn pan welis i fod rhywyn wedi spreio rwch Saesneg dros y Cofiwch Dryweryn yn Llanrhystud.

Lle mae criw ifanc Cymdeithas yr Iaith? dan ni i gyd yn gwbod na rownd ochrau yna dach chi'n byw tydan. Lle ma ych hunanbarch chi?

Dach chi isho rwbath i neud - wel prynwch bot paent coch, pot paent gwyn ac ewch allan i neud rwbath y ffernols diog. Swn ni'n neud o'n hun os swn i'n byw yn nes.

Ta dio ddim ots gynoch chi?
Rhithffurf defnyddiwr
Kymro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Llun 02 Meh 2003 11:06 am

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Cardi Bach » Llun 21 Gor 2003 3:42 pm

Kymro a ddywedodd:On i'n mynd lawr i Abertawe Dydd Sadwrn pan welis i fod rhywyn wedi spreio rwch Saesneg dros y Cofiwch Dryweryn yn Llanrhystud.

Lle mae criw ifanc Cymdeithas yr Iaith? dan ni i gyd yn gwbod na rownd ochrau yna dach chi'n byw tydan. Lle ma ych hunanbarch chi?

Dach chi isho rwbath i neud - wel prynwch bot paent coch, pot paent gwyn ac ewch allan i neud rwbath y ffernols diog. Swn ni'n neud o'n hun os swn i'n byw yn nes.

Ta dio ddim ots gynoch chi?


Croeso nol Kymro! O'n i'n meddwl pryd o'n i'n mynd i weld dy negeseuon godidog a pherseinus unweth eto.

Wyt ti wirioneddol yn poeni am yr arwydd yma ger Llanrhystud?
Wyt wir?

Wel beth yw pellter pan mae cariad yn y cwestiwn? - dere i neud e dy hunan. Esgus yw pellter - sdim unman yn bell yng Nghymru fach.

Ta dio ddim ots gyno chdi? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Geraint » Llun 21 Gor 2003 3:50 pm

Ydi ELVIS dal ar y garreg na (Eisteddfa Gurig???)

Mae na rhywun flaengar iawn yn ardal Llanbrymair.
Rhywun yn cofio'r 'Get rid of Maggie?' oedd ar bont Commins Coch yn y wythdegau?

Nawr mae sloganau a symbol FWA ar y bont rhwng Commins Coch a Llanbrynmair.

Dwi wrth fy modd yn gweld slogannau wrth teithio'r wlad bert ma!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 21 Gor 2003 5:38 pm

Mae rhywun wedi peintio, ar fainc o flaen ein hysgol ni mewn coch: "Ysgol Gachu". Sy'n wir, ond dyna ni.

A rhyw rapsgaliwn bach wedi peintio DAL DY DIR! o fewn muriau'r ysgol yn glir i bawb weld. Pa hogyn 'sa'n gwneud y ffasiwn beth wir .......
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 21 Gor 2003 9:58 pm

On i'n mynd lawr i Abertawe Dydd Sadwrn pan welis i fod rhywyn wedi spreio rwch Saesneg dros y Cofiwch Dryweryn yn Llanrhystud.


Ai honna oedd yr un efo'r camdreiglad ynddo? A wedyn nath ei athrawes Gymraeg roi row iddo, ag ath o nol ag ychwanegu

"...Sori Miss!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Cofiwch Dryweryn

Postiogan Kymro » Llun 21 Gor 2003 10:05 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Kymro a ddywedodd:On i'n mynd lawr i Abertawe Dydd Sadwrn pan welis i fod rhywyn wedi spreio rwch Saesneg dros y Cofiwch Dryweryn yn Llanrhystud.

Lle mae criw ifanc Cymdeithas yr Iaith? dan ni i gyd yn gwbod na rownd ochrau yna dach chi'n byw tydan. Lle ma ych hunanbarch chi?

Dach chi isho rwbath i neud - wel prynwch bot paent coch, pot paent gwyn ac ewch allan i neud rwbath y ffernols diog. Swn ni'n neud o'n hun os swn i'n byw yn nes.

Ta dio ddim ots gynoch chi?


Croeso nol Kymro! O'n i'n meddwl pryd o'n i'n mynd i weld dy negeseuon godidog a pherseinus unweth eto.

Wyt ti wirioneddol yn poeni am yr arwydd yma ger Llanrhystud?
Wyt wir?

Wel beth yw pellter pan mae cariad yn y cwestiwn? - dere i neud e dy hunan. Esgus yw pellter - sdim unman yn bell yng Nghymru fach.

Ta dio ddim ots gyno chdi? :winc:


Yli washi dwi'n gneud fy rhan yn fy ardal fy hun a lot o bobol fatha fi. Mae be dwi di glwad am bobol Ceredigion yn wir felly. Wbath i neud efo brwydro dros yr iaith a man nw'n gadal i bobol o'r tu allan (gogledd Cymru fel arfer) wneud y gwaith drostyn nw. Y gwir ydi diawl o ots gen y Cardis felly pob lwc i chi yn eich dyfodol Saesneg ei iaith efo'ch bobol drws nesa Saesneg ei iaith ac ych plant Saesneg ei iaith.

Cadranle yr iath Gymraeg - ffyc off!
Rhithffurf defnyddiwr
Kymro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Llun 02 Meh 2003 11:06 am

Postiogan sbwriel » Llun 21 Gor 2003 10:12 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae rhywun wedi peintio, ar fainc o flaen ein hysgol ni mewn coch: "Ysgol Gachu".


Ydy hwna'n dreiglad cywir?
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan ceribethlem » Llun 21 Gor 2003 10:16 pm

Hogyn o Rachub :
Mae rhywun wedi peintio, ar fainc o flaen ein hysgol ni mewn coch: "Ysgol Gachu".


Ydy hwna'n dreiglad cywir?


Bydd rhaid cael yr athro Cymraeg i fynny iddo fe/hi ei ailbeintio hanner cant o weithiau'n gywir a la Life of Brian :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 21 Gor 2003 10:20 pm

Sori, Ysgol Cachu sydd wedi ei ysgrifennu ar y fainc! Er mi faswn i'n dweud mai g sydd i fod 'na!

Duw a wyr!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 21 Gor 2003 10:55 pm

Ysgol Cachu

Dim "Shit Ladder" fasa honno? :lol:
Ysgol Gachu faswn i'n deud ydi'r threiglad gywir
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 3 gwestai