Gran Canaria

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gran Canaria

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Mer 23 Chw 2005 12:15 pm

Dwi'n mynd ar fy ngwyliau Dydd Sadwrn i Gran Canaria efo criw o ffrindiau gwaith. Dwi erioed wedi bod ar un o'r gwyliau resort yma o'r blaen - dydyn nhw ddim yn apelio lot (mae gen i gof dweud yn 5 am y Penwythnos rhywdro mai bod mewn clwb Magalwffaidd yw fy syniad o uffern). O wel - o'n i di meddwi pan gytunais i fynd...

Oes 'na rywun yma wedi bod ar yr ynys? Oes 'na bethau diddorol i berson dosbarth canol Cymraeg fel fi ( :P ) ei wneud yna? Oni bai am ddarllen dramâu Saunders Lewis ar y traeth efo llais Bryn Terfel yn fy swyno o'm stereo bersonol!!

Dwi'n meddwl mai be' dwi'n drio'i ofyn, ond mod i'n mynd rownd y byd i gyrraedd y pwynt, ydi a fydd yn lle yn ferw gwyllt o Brits meddw yn ymddwyn fel 'dach chi'n eu gweld nhw ar y rhaglenni Ibiza Uncovered 'ma?
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Gwen » Mer 23 Chw 2005 12:23 pm

I le yn Gran Canaria wyt ti'n mynd?

Dwi'm di bod chwaith, felly dwn i'm pam dwi'n holi. Ond mae'n siwr fod llefydd mwy a llai coman yno fel ym mhobman. Gwgla!
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Mer 23 Chw 2005 12:34 pm

Playa del Ingles ydi enw'r lle. O be' wela'i yn sydyn ar gwgl - mae ganolbwynt hoyw, efo dwy ran - yr English Centre a'r Irish Centre, a bwyd shit. Hmm - dyna o'n i'n ei ofni.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Gwen » Mer 23 Chw 2005 12:36 pm

Ti di prynu Rough Guide?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwen » Mer 23 Chw 2005 12:49 pm

Wedi chwilio'n sydyn ar Amazon, a dio'm yn ymddangos bod na Rough Guide o Gran Canaria. Ond, Dwyllwr bach, be ti'n feddwl ti'n neud yn mynd i le o'r enw Traeth y Sais?? Fedrith o'm bod yn baradwys diwylliannol a deud y gwir, na fedrith? Caset Tynged yr Iaith amdani...
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwen » Mer 23 Chw 2005 12:50 pm

Overview: ‘The Englishman's beach’ is how Playa del Ingles translates – those naming the resort had great foresight as today thousands of Brits flock here for sun, sea and San Miguels. Situated at the south of Gran Canaria island, the resort is one of the largest and busiest in Europe and its main feature is the wide sandy beach that stretches from the Maspalomas dunes to San Agustin in the north. Playa del Ingles has a vast array of shops, bars and restaurants and a very busy nightlife, making it a great destination for those wanting a lively holiday. Although mainly geared for the younger market, families and older visitors are also attracted by the glorious year-round climate and endless beach, but tend to stick together in the quieter areas. Maspalomas is only a mile or two southwest of Playa del Ingles and is a little quieter and less built up than its neighbour. Its main attraction is the staggering four-mile (6km) beach, which is backed by a vast empty expanse of Sahara-like dunes, popular with nudists.


Pwy sy di gwneud mistêc?? :lol:

A hynna oedd y darn gorau:

Negatives: Visitors should be aware that there are lots of steps from some hotels and apartments to the beach, and that the centre of the resort can be very noisy until long into the night. Outside many bars and restaurants there are people with 'info' badges on their jackets – they are actually salesmen that work to promote bars and restaurants who get commission if you go with them; they can be very insistant but can be worth chatting up as they sometimes offer free drinks. Also watch out for the Moroccan women by the Kasbah wanting to shake your hand – they snap bracelets on your arms and then say you are cursed unless you pay them up to €15 to have them burnt off! Salesmen may even come into the restaurants, its best to be firm but polite and avoid getting into a conversation if you are not interested. It is possible to get good bargains in the electrical duty-free stores, but shoppers should remember that they can't take purchases back to the shop once they've left the island; they should check everything works and that all batteries, cables and plugs are included; that there is a European guarantee, not an Asian one; and that all electrical items have a CE stamp. The beach is great, but visitors should be aware that there are lots of nudists about, particularly among the Maspalomas dunes.


Golwg Sais ar y lle, yn amlwg. :rolio: Gwae neb am feiddio llygru ei draeth o hefo'i 'negatives'.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Mer 23 Chw 2005 1:31 pm

O ffwc. Smo fi ishe mynd :(
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Meic P » Mer 23 Chw 2005 4:35 pm

Ella gei di well hwyl efo'r hogia?

Clic...
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan Siffrwd Helyg » Mer 06 Ebr 2005 4:07 pm

Shwt ath hi yn y diwedd te? Edrych yn debyg bydda i'n mynd i Gran Canaria yn yr ha' da criw o ffrindie coleg. Ar yr amod bod ni ddim yn mynd i draeth y Sais tho!!

Odd actiwali unrhyw lefydd neis 'na?!
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Mer 06 Ebr 2005 5:07 pm

Reit - cyn y llith, gad i mi esbonio fy mod i’n un o’r snobs diwylliannol mwya’ gei di (ddim yn beth i ymffrostio ynddo, ond ’na ni…).

Roedden ni’n aros mewn bynglo bach ynghanol bynglos eraill (resort felly). Roedd y tŷ yn neis, a’r stâd yn eithaf tawel (llawn hen bobol – rho hen bobol i fi cyn lagyr lawts prydeinig unrhyw ddydd!).

Roedd yn well gan y criw oeddwn i wedi mynd efo nhw aros wrth y pwll yn torheulo yn y dydd na mynd i edrach o gwmpas. Mi wnes i hyn ambell i ddiwrnod hefyd, a rhaid cyfaddef – mi oedd darllen Catch 22 ac yfed cwrw oer ar brynhawn poeth yn brofiad pleserus iawn…

Ond, ar ôl deuddydd, cefais ddigon ar gwcio yn yr haul ac off â fi a’r phrasebook am dro fach.

Trip o amgylch y siopau yn Playa del Ingles (Traeth y Sais) - lot o siopau yn gwerthu shit swfeniraidd. Hefyd, am ryw reswm, lot o anrhegion o Jamaica yn bropaganda lliwgar i gyfreithloni canabis (:?). Prif ganolbwynt y dref = Canolfan Yumbo. O be welais i – cymysgedd o siopau anrhegion rhad, copis o fagiau llaw designer (am brisiau rhad) a mwy o siopau persawr a ballu na fedri di ddychmygu – oddan nhw yn bob man! Siopau designer ar y llawr gwaelod.

Puerto Rico – roedd y ‘rep’ wedi fy mharatoi ar gyfer gwledd bensaernïol a harddwch tu hwnt i fy nirnad. Hmm – os ti’n synied bo miloedd o dai gwyliau wedi eu naddu i mewn i’r graig yn hardd – mae’n debyg ei fod o. Ond wedi dweud hynny, dwi’n falch mod i wedi gweld y math yna o beth – mae o’n gosod ambell i beth yn ei gyd-destun fel petai. Mynd ar drip cwch nes i. Ddylwn i ddim fod wedi gwneud hynny, achos doedd hi’m yn ddiwrnod braf. Pawb ar y cwch yn sâl. 5 awr o gael ein taflu o un ochr i’r llall. Artaith llwyr. Ond mi oedd hyn yn mis Chwefror/Mawrth…

Mi arhosodd y bws yn amgueddfa Perla Canaria ar y ffordd yn ôl. Amgueddfa berlau. Dwi rioed wedi bod mor bord yn fy myw! Paid â mynd yna – mae o WIR yn anniddorol!

Puerto Mogán – Dyma’r lle wnes i fwynhau ymweld ag o fwyaf. Roedd yn fy atgoffa o’r trefi glan môr mwy hen ffasiwn dwi wedi ymweld â nhw – trefi pysgota yn Ffrainc ayb. Roedd hi’n ddiwrnod marchnad pan es i yna. Mi oedd ’na bethau diddorol i’w canfod yn y farchnad ond eu bod nhw’n cael eu cuddio gan y cannoedd o stondinau gwerthu bagiau llaw ffêcs. Ond, dyma’r unig le yr ymwelais i ag o oedd fel petai o wedi gallu dal gafael ar ddiwydiant nad oedd yn ddiwydiant twristiaeth.

Bwytai – lyfli a prôns HIWJ!

O ran adloniant nosweithiol – fyddwn i ddim yn meddwl bod llawer i’r llwyrymwrthodwr ei wneud ar arfordir deheuol Gran Canaria! Mae ’na lawer o fars eithaf neis a rilacsd yna – dim drws a gwresogyddion patio yn rhoi awyrgylch braf. Digonedd o glybiau nos hefyd (Ministry of Sound, Cream a ballu – hmm). Yn y Ganolfan Yumbo, cynhyrfais yn lân wrth weld bar Cymraeg – Toby’s Welsh Bar – Cymro Cymraeg o Ddolgellau yn gweithio yno a baneri Cymru a Glyndŵr ym mhob man.

Roedd hi’n wythnos garnifal pan aethom ni yna, ac felly yn brysur a bywiog iawn ar adeg cymharol dawel o’r flwyddyn fel arall.

Mae hanes ddiddorol i’r ynys hefyd. Hanes y Sbaenwyr yn dod i mewn ac yn concro, gan droi’r brodorion (a oedd yn flaenorol yn addoli’r haul) yn Gristnogion. Mi blygodd y rhan fwya’ i ffyrdd a iaith y Sbaenwyr, ond mi aeth y lleill – a oedd wedi gwrthod troi – yn eu cannoedd i fyny mynydd yng ngogledd yr ynys a neidio oddi ar y dibyn i’w marwolaeth. Felly, does dim yn wirioneddol frodorol yna.

Ar y cyfan felly, mi gefais amser da a digon o hwyl. Fyswn i’n mynd nôl? Hmmm.... byswn ella, am yr ymlacio.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron