Unrhywun arall a chyfrif <a href="http://www.flickr.com/">Flickr</a>? Ffordd hawdd i rannu lluniau, a chan dy fod di'n rhoi tagiau o dy ddewis dy hunan, hawdd iawn i greu is-gymuned Gymraeg tu fewn i gymuned fwy Flickr. Dw i newydd lanlwythio dau lun (lluniau Rhys Llwyd ydyn nhw - na, paid poeni, nid lluniau ohono fe, ond ganddo fe) ac wedi fy synnu pa mor hawdd yw e ei i ddefnyddio. Edrych ymlaen nawr at gael yr iMac (mae e ar ei ffordd!), i mi gael lanlwytho fy lluniau fy hunan.
Mae <a href="http://www.flickr.com/groups/cymraeg/">grwp Cymraeg</a> ar gael. Os oes diddordeb, wna i sefydlu un i aelodau'r maes.