gan S.W. » Iau 21 Ebr 2005 5:17 pm
Meddai Llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan,
“Mae Plaid Cymru wedi tristhau heddiw o glywed y newyddion am farwolaeth Gwynfor Evans. Mae’r newydd wedi ei dderbyn a thristwch mawr gan bawb ym Mhlaid Cymru sydd wedi eu hysbrydoli gan Gwynfor dros y blynyddoedd i weithio dros Gymru ac i greu cenedl y gallwn fod yn falch ohonni.
“I aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru yn hen ac ifanc, roedd Gwynfor Evans yn arweinnydd ysbrydol ac fe fydd yn parhau i fod. Mae’n amhosibl gor-bwysleisio cyfraniad unigryw Gwynfor i adeiladu Plaid Cymru i’r blaid ydi hi heddiw. Ef oedd pensaer y Blaid Cymru fodern ac fe droth y blaid i fod yn rym etholiadol credadwy pan gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 1966.
“Gwynfor oedd cynhaliaeth y Blaid yn ystod blynyddoedd llwm y 50au a’r 60au. Mae’n wir i ddweud heb Gwynfor wrth y llyw na fyddai Plaid Cymru wedi llwyddo mewn etholiadau ac ymgyrchoedd yn y blynyddoedd diweddar.
“Mae ei ddylanwad i’w deimlo ymhell tu hwnti i ffiniau gwleidyddiaeth bleidiol. Ni fyddai Cymru y wlad yw hi heddiw - yn wir mae’n bosib na fyddai yn wlad o gwbwl - heb waith a dyfalbarhad Gwynfor.
"Roedd Gwynfor Evans yn ddylanwad enfawr ar fy naliadau gwleidyddol. Roedd yn arweinydd cenedlaethol ymhob ystyr y gair. Bydd colled fawr ar ol ei ddoethineb a’i arweiniad ond bydd ei ysbrydoliaeth yn aros gyda ni am byth. Mae’n cydymdeimlad ni oll gyda’i wraig Rhiannon a’i deulu.”