Tegwared ap Seion a ddywedodd:fydd cloc "canolog" y maes yn cael ei newid? ta fydda i yn conffiwsd am byth
Mae'n eitha arferol i wasanaethau ar-lein ddefnyddio amser <a href="http://en.wikipedia.org/wiki/Utc">UTC</a>, sydd yn y bôn yr un peth â GMT, ond yn llai daearyddol ei naws.
Petawn ni'n dechrau amrywio'r cloc gyda'r tymhorau, rhaid penderfynu rheolau pwy i ddilyn. Dyw pob aelod o'r Maes ddim yn byw yng Nghymru (na Phrydain!), cofia, ac felly mae'n amhosib newid y cloc heb ddrysu gweddill y byd. Mae rheolau gwahanol gan wledydd gwahanol, rhai yn newid clociau ar ddyddiadau gwahanol, rhai ddim yn newid o gwbl. Yr ateb symla, a mwya derbyniol i bawb, yw i gadw at UTC.