Bydd criw o ddysgwyr o ardal Caerffili yn mynd i Wyl Iaith Dysgwyr yn y Bala rhwng y 13eg a 15eg o fis Mai.
Byddan ni'n trafeilio (yn araf gan mai fi sy'n gyrru'r bws mini) ac yn stopio sawl tro i'r hen bobl cael pi-pi. Dwi wedi teithio ar hyd y ffordd ma sawl tro ond wastad mewn brys ac ond yn stopio am slash mewn lay-by's felly dwi ddim yn gyfarwydd am lefydd da i stopio am baned. Unrhyw awgrymiade am lefydd ger
Llanelwedd, Rhaedr, Llanidloes, Caersws.
Hefyd ni am fynd i Dolgellau ac efallai Trawsfynydd am ryw awren neu ddwy.
Chwilio am lefydd i fwyta ac ymweld, gyda gwasanaeth cyfeillgar Cymraeg ble'n bosib.